Defnyddio tystiolaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng llety dros dro

Rydym ni wedi lansio ein galwad agored, gan wahodd awdurdodau lleol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb am gymorth tystiolaeth gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a/neu ein cyd-ganolfan What Works, sef y Ganolfan Effaith Digartrefedd (CHI). Cliciwch yma i gyflwyno eich cais [dolen].

Yr argyfwng tai a digartrefedd

Dro ar ôl tro, mae llunwyr polisïau ledled Cymru wedi cyfeirio at yr argyfwng tai cynyddol fel blaenoriaeth allweddol. Un o ganlyniadau amlycaf a mwyaf difrifol yr argyfwng tai yng Nghymru yw’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n profi digartrefedd. Cafodd 13,287 o aelwydydd eu cofnodi’n ddigartref yn 2024/25 a chofnodwyd bod 168 o bobl yn cysgu ar y stryd ym mis Awst 2025. Oherwydd hyn, mae cynnydd wedi bod hefyd yn y galw am lety dros dro. Roedd 11,029 o bobl mewn llety dros dro ym mis Awst 2025, o’i gymharu â 3,566 ym mis Awst 2020.

Fel rhan o’n maes blaenoriaeth ‘Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau’, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn edrych ar sut y gellir rhoi cefnogaeth ystyrlon i Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn iddynt allu cael gafael ar dystiolaeth a’i defnyddio i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Goblygiadau iechyd a llesiant i breswylwyr
Er bod llety dros dro yn rhoi to uwch ben person, nid yw’n cymryd lle cartref parhaol. Mae tystiolaeth gan Ymddiriedolaeth Bevan a Shelter Cymru yn dangos bod ansawdd llety dros dro yn aml yn wael, eu bod yn methu â bodloni gofynion y preswylwyr ac yn gallu arwain at gostau iddynt. Ni ellir gorbwysleisio’r effaith negyddol y mae byw mewn llety dros dro yn ei chael ar iechyd a llesiant unigolyn. Gall yr effeithiau negyddol ddeillio o amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys: pryderon ynghylch diogelwch personol; byw ymhell oddi wrth deulu, ffrindiau, ysgol a gwaith; llety anaddas; ac ansicrwydd ynghylch cael tŷ.

Costau’n llorio awdurdodau lleol
Mae awdurdodau lleol yn poeni am yr effaith gymhleth y mae byw mewn llety dros dro yn ei chael ar bobl, ac ar ben hynny mae’r cynnydd yn y galw am lety dros dro wedi gorfodi cynghorau i wario mewn modd anghynaliadwy a digynsail.  Mae adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn dangos bod gwariant cynghorau ar lety dros dro yng Nghymru wedi codi o £28 miliwn yn 2019 i £172 miliwn erbyn 2023-24.

Ein cynnig o gymorth tystiolaeth

Rydym ni wedi bod yn edrych ar sut y gallwn ni weithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio’r dystiolaeth, yr ymchwil a’r wybodaeth sydd gennym eisoes i fynd i’r afael â rhai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu sy’n ymwneud â digartrefedd a llety dros dro.  Rydym ni wedi penderfynu lansio galwad agored, sy’n rhoi cyfle i awdurdodau lleol gyflwyno datganiadau o ddiddordeb am gymorth tystiolaeth – yn unigol, ar y cyd neu â phartneriaid eraill. Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol gael gafael ar dystiolaeth sy’n gweddu i anghenion ac amgylchiadau eu sefydliadau, a’i defnyddio. Lle bo’n bosibl, byddwn ni’n cysylltu awdurdodau lleol â sefydliadau a chanolfannau tystiolaeth eraill, fel ein cyd-ganolfan What Works, sef y Ganolfan Effaith Digartrefedd (CHI). Yn hytrach na gofyn i awdurdodau lleol ddarparu syniad cyflawn am brosiect, rydym ni eisiau iddynt rannu ychydig o wybodaeth am natur yr her sy’n eu hwynebu, gan ddangos sut y gall tystiolaeth helpu i fynd i’r afael â’r her. Yna, byddwn yn gallu ystyried sut y gallwn ni, neu sefydliadau eraill, ddarparu cymorth tystiolaeth.

Ein gweithdy cydweithredol

Er mwyn rhannu gwybodaeth am y cymorth rydym ni’n ei gynnig yn ogystal â’n hymchwil diweddar ar lety dros dro, cynhalion ni weithdy ar-lein ar gyfer awdurdodau lleol ar 27 Tachwedd 2025.

Daeth y gweithdy â gynrychiolwyr o dimau tai a ddigartrefedd o’r rhan fwyaf o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ynghyd i glywed am y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud â llety dros dro, ac i hwyluso’r drafodaeth rhwng cynrychiolwyr am yr heriau allweddol y gellir mynd i’r afael â nhw drwy ddefnyddio tystiolaeth.  Yn ystod sesiwn y bore, bu’r cyflwynwyr yn trafod y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud â llety dros dro yng Nghymru, gan rannu eu prif ganfyddiadau.

Roedd hyd a lled yr heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol ar sail eu cyd-destun a’u hamgylchiadau yn amlwg yn ystod y gweithdy, ond roedd hi’n amlwg hefyd fod pob awdurdod lleol yn awyddus i leihau’r galw am lety dros dro, a gwella’r ddarpariaeth pan fo angen. Ar ben hynny, roeddent yn rhannu’r un dyhead cyffredin sef y dylai llety dros dro fod yn ddatrysiad prin a byr nad yw’n cael ei ailadrodd ac y dylai’r profiad fod yn un cadarnhaol i letywyr.

Sut i gyflwyno datganiad o ddiddordeb am gymorth tystiolaeth

Ynghyd â’r Ganolfan Effaith Digartrefedd, ein nod ni yw rhoi cymorth ystyrlon i awdurdodau lleol gael gafael  ar dystiolaeth a’i defnyddio i leihau’r galw am lety dros dro, a lle bo angen, gwella’r ddarpariaeth a’r ffordd mae’n cael ei defnyddio. I wneud hyn, rydym yn gwahodd awdurdodau lleol, yn unigol neu ar y cyd, i rannu Datganiadau o Ddiddordeb â ni am gymorth tystiolaeth.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr alwad agored a’r broses ymgeisio:

Neu gwyliwch ein cyflwyniad ar y broses Datgan Diddordeb yma:

Dyddiad cau: Dydd Gwener 30 Ionawr

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â rosalind.phillips@wcpp.org.uk

To top