Dr Alexander Jones

Mae Dr. Alexander Jones yn Gynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), ac ymunodd â’r tîm yn 2025.

Mae Alex wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer WCPP, yn enwedig o fewn meysydd blaenoriaeth y Ganolfan, sef Anghydraddoldebau a’r Amgylchedd a Sero Net. Mae hyn yn cynnwys ymchwil barhaus i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â thlodi, ac ymchwil i leihau anweithgarwch economaidd drwy ddulliau lleol, seiliedig ar leoedd, ac amlasiantaethol.

Cyn ymuno â’r Ganolfan, gweithiodd Alex yn gynorthwyydd ymchwil ac yn gydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ar nifer o brosiectau ymchwil gan gynnwys prosiect ‘Horizon 2020: FOODTRAILS’, a ‘Sustainable Food Systems: Planet Card Initiative’.

Mae gan Alex radd MSc mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, a PhD mewn Busnes o Brifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys tlodi bwyd, darpariaeth bwyd amgen, menter gymdeithasol a gwydnwch y gadwyn gyflenwi, gan arbenigo mewn Theori Rhwydwaith. Mae Alex yn Gymrawd Cyswllt yr Academi Addysg Uwch (AFHEA), ac mae ganddo brofiad yn addysgu ystod eang o fodiwlau Rheoli Busnes.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.