Mae’r Ganolfan yn gwneud tri phrif fath o waith. Mae’n:
- Helpu Gweinidogion Llywodraeth Cymru i nodi tystiolaeth awdurdodol ac arbenigedd annibynnol a all helpu i lywio a gwella polisi, yn ogystal â chael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd o’r fath a’u defnyddio.
- Gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i gael gafael ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio wrth fynd i’r afael â heriau economaidd a chymdeithasol allweddol, yn ogystal â chynhyrchu, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth o’r fath.
- Defnyddio’i gwaith gyda Gweinidogion a gwasanaethau cyhoeddus i wella dealltwriaeth o’r ffordd y gall tystiolaeth lywio a gwella’r broses o lunio polisïau a gwasanaethau cyhoeddus a chyfrannu at ddamcaniaeth llunio a gweithredu polisi.
Drwy secondiadau, lleoliadau PhD a’i rhaglen Prentisiaeth Ymchwil, mae’r Ganolfan hefyd yn gwella gallu ymchwilwyr i wneud ymchwil sy’n berthnasol i bolisi sy’n cael effaith.