Model unigryw ar gyfer y gwasanaeth prawf yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gryfhau ein setliad datganoli. Mae llywodraethau Cymru a'r DU a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth erbyn diwedd 2026.

Gan adeiladu ar waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar Adeiladu Gwasanaeth Prawf Cymreig, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal prosiect dilynol sy’n canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol a’r mecanweithiau sy’n gysylltiedig â chyflawni Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Mae ein hadroddiad yn canfod bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ffordd ymarferol a phragmatig o gryfhau ymreolaeth leol; ymwreiddio gwaith partneriaeth; a darparu gwasanaethau prawf ymatebol. Ond, bydd heriau i’w goresgyn wrth weithredu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a sefyllfa gymhleth i’w hystyried o ran llywodraethu, daearyddiaeth a diwylliannau sefydliadol, a bydd yn cymryd amser i gytuno ar ddull hyblyg ac ymarferol. Bydd integreiddio’r hyblygrwydd i ailadrodd, addasu neu wella’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn helpu i sicrhau y gellir adeiladu ar lwyddiannau, heb atal diwygiadau pellach i’r gwasanaeth neu ddatganoli yn nes ymlaen.

I gefnogi’r gwaith o roi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar waith yn llwyddiannus, mae ein hadroddiad yn nodi tair thema allweddol:

1. Llywodraethu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth;

2. Y ffactorau perthynol, gan gynnwys gweithio gyda darparwyr gwasanaethau a phartneriaid allweddol eraill; a

3. Ffactorau gweithredol, fel defnyddio Memoranda Cyd-ddealltwriaeth i reoli contractau ac i hwyluso darpariaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Ar gyfer pob un o’r themâu hyn, rydym yn rhoi argymhellion ac yn myfyrio ar y gwersi allweddol rydym ni wedi’u dysgu o Femoranda Cyd-ddealltwriaeth eraill a mecanweithiau cydweithredol, gan gynnwys Manceinion Fwyaf ac ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ein gwaith ei lywio gan: gyfweliadau gydag ymarferwyr prawf, arbenigwr a rhanddeiliaid allweddol; adolygiadau o’r llenyddiaeth; a gweithdai a chyflwyniadau. Ni wnaethom unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: "Rwy’n ddiolchgar iawn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac i bawb a gyfrannodd at y gwaith hynod arwyddocaol hwn." 

To top