Ystyried effaith Rhwydwaith What Works

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi cael cyllid ESRC i barhau i ymchwilio a datblygu effaith Rhwydwaith What Works. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar brosiectau blaenorol y Ganolfan megis ar weithredu ac ar effaith Bydd y prosiect newydd yn canolbwyntio ar y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Beth sy’n cael ei ystyried yn effaith a beth yw’r ffurfiau amrywiol o effaith ar draws y Rhwydwaith?
  • Sut mae Canolfannau What Works (WWCs) yn cyflawni ac yn dangos effaith?
  • Beth mae effaith yn ei olygu i randdeiliaid WWCs? e.e., llunwyr polisïau, gwneuthurwyr penderfyniadau ar lefel leol.
  • Sut mae sefydliadau eraill ym maes ehangach tystiolaeth a pholisi yn cyflawni ac yn dangos effaith?

Nid ymchwil sy’n ceisio ‘darganfod’ y diffiniad ‘cywir’ o effaith neu ffyrdd o’i gyflawni yw hwn. Yn lle hynny, y nod yw bod yn brosiect dysgu a rhannu sy’n cynnwys WWCs ym mhob cam o’r ffordd wrth lunio a chyfrannu at y dyluniad a’r allbynnau. Mae WCPP wedi bod yn rhan o grŵp anffurfiol o WWCs sydd wedi bod yn rhannu’r hyn a ddysgwyd am effaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r cwestiynau uchod yn dangos rhai o’r trafodaethau hynny, yn ogystal â thrafodaethau mewnol yn y Ganolfan am sut mae’n bosibl i ni wella ein dealltwriaeth a’n harferion o ran cyflawni effaith.

Mae pum prif nod i’r prosiect:

  1. Adolygu gwybodaeth gyfredol yn y DU a ledled y byd ar asesu a deall effaith mewn cyd-destunau gwahanol, gan gynnwys cyfryngwyr tystiolaeth, melinau trafod a chanolfannau ymchwil prifysgolion.
  2. Ymgynghori â WWCs i gyfuno a rhannu beth sy’n cael ei ddysgu am arferion cyfredol ynghylch effaith ar draws y Rhwydwaith. Beth mae WWCs yn ei wneud ar hyn o bryd? Beth sydd i’w weld yn gweithio'n dda a pham? Beth yw'r heriau mae’r Canolfannau yn eu hwynebu?
  3. Rhannu a dysgu gan sefydliadau eraill ym maes tystiolaeth polisi sydd â nodau tebyg i WWCs.
  4. Gwella dealltwriaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid ar bolisi ac ymarfer am sut mae’r Rhwydwaith yn cael effaith, beth sy’n gweithio’n dda a pha newidiadau allai fod angen.
  5. Datblygu sesiynau hyfforddi ar sail angen sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft sut i gynllunio a threfnu i wneud effaith, sut i gyrraedd cynulleidfaoedd penodol, a sut i nodi effaith.

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Ebrill 2023 ac yn gorffen ym mis Rhagfyr 2025. Byddwn ni’n rhoi diweddariadau rheolaidd ar beth rydyn ni’n ei ddysgu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.