Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu heriau cymhleth, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu, ysbytai’n cyrraedd eu llawn gapasiti, a chynydd mewn problemau iechyd ac anghydraddoldebau hirdymor. O ystyried y sefyllfa gymhleth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi uchelgais i sefydlu System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS), gan gynnig cynllun cynhwysfawr i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer trawsnewid y modd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.
Mae’r System Gofal Cymunedol Integredig yn newid sylfaenol tuag at ddulliau gofal integredig ac ataliol. Bwriad gofal integredig yw creu llwybr di-dor rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, gan ei wneud yn bosibl i gydlynu a chefnogi’r gwaith o gynnig gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Nod gofal ataliol yw adnabod a mynd i’r afael â materion iechyd yn eu camau cynharaf. Yn aml, fe’i ddarperir yng nghartref neu gymuned yr unigolyn, cyn i’r rhain ddatblygu’n faterion cymhleth sy’n gofyn am ofal ysbyty.
Er gwaethaf fframwaith cyfreithiol a pholisi clir i gynnig iechyd a gofal cymdeithasol ataliol ac integredig yng Nghymru, a nodir yng nghynllun System Gofal Cymunedol Integredig, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae mesur effaith dulliau ataliol ac integredig yn parhau i fod yn heriol oherwydd diffyg offer a fframweithiau mesur cadarn.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyflwyno tystiolaeth i nod i ba raddau y gall offer a fframweithiau mesur presennol werthuso effaith gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar integredig yn effeithiol, er mwyn cefnogi’r gwaith presennol i roi System Gofal Cymunedol Integredig ar waith ledled Cymru.
Rydyn ni wedi comisiynu’r Ganolfan Ymchwil Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Leeds Beckett i gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth a chyfweliadau grŵp gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr sy’n ymwneud ag ymdrechion i fesur effaith atal integredig ac ymyrraeth gynnar yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd yr ymchwil hon yn ymateb i’r cwestiynau ymchwil canlynol:
- Sut y datblygwyd i fesur ac asesu effaith strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar integredig mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn mannau eraill?
- Sut mae offer a fframweithiau mesur yn cael eu defnyddio yn y DU ac yn rhyngwladol i werthuso effaith atal ac ymyrraeth gynnar mewn gofal iechyd a chymdeithasol integredig? Pa un o’r rhain sy’n dangos potensial wrth gefnogi dull integredig o fesur effaith atal ac ymyrraeth gynnar mewn iechyd a gofal cymdeithasol?
- Sut y gallai offer a dulliau gwerthuso presennol gefnogi’r gwaith o ddatblygu fframweithiau mesur ar y cyd ar gyfer atal integredig ac ymyrraeth gynnar mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Bydd y gwaith hwn yn llywio’r gwaith o ddatblygu fframwaith mesur ar y cyd ar gyfer y System Gofal Cymunedol Integredig, a fydd yn cefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i fesur a gwerthuso eu hymdrechion i gynnig gofal a chymorth cymunedol integredig ac ataliol.