Bu twf sylweddol yn nifer y cyfryngwyr tystiolaeth neu’r cyrff broceru gwybodaeth sy'n eistedd rhwng ymchwil a'r llywodraeth ac sy'n ceisio pontio'r 'bwlch' canfyddedig rhwng tystiolaeth a pholisi. Mae eu hymlediad wedi'i sbarduno gan ragdybiaeth allweddol y mudiad llunio polisïau ar sail tystiolaeth (EIPM): y bydd mwy o dystiolaeth yn arwain at bolisïau gwell. Gellir ystyried Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) yn gorff broceru gwybodaeth. Mae ein hymchwil yn ceisio deall sut a pham y mae'r cyrff hyn wedi dod i'r amlwg mewn gwahanol lywodraethau a thraddodiadau gwleidyddol, beth maen nhw'n ei wneud, y strategaethau maen nhw'n eu defnyddio i lywio polisi a pha effaith maen nhw'n ei chael; gan gynnwys yr effaith mae cyrff fel y rhain a'r mudiad EIPM ehangach yn ei chael ar atebolrwydd a democratiaeth. Bydd y canfyddiadau'n llywio sut mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) yn gweithio ac yn trefnu ei hun, yn llenwi bwlch mewn gwybodaeth am sefydliadau broceru gwybodaeth, ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o rôl tystiolaeth mewn polisi.
Bydd yr ymchwil yn cyfrannu adolygiad ansoddol o'r llenyddiaeth ar froceru gwybodaeth a chyrff broceru gwybodaeth a chymhariaeth fanwl, feirniadol o sefydliadau mewn rhannau eraill o'r byd (er enghraifft, yng Nghanada, De Affrica a gwledydd eraill) sy'n gwneud gwaith tebyg i'r Ganolfan.
Gallwch ddarllen ein papur “Does knowledge brokering facilitate evidence-based policy? A review of existing knowledge and an agenda for future research“, a gyhoeddwyd yn Policy and Politics (Rhagfyr 2019) drwy glicio yma.
Gallwch ddarllen ein blog “Knowledge brokering for policy:: What do we know?” a gyhoeddwyd yn Policy and Politics (January 2020) drwy glicio yma.
Papurau:
Cyfres o bapurau ar thema beth yw cyrff broceru gwybodaeth (KBOs), beth maen nhw'n ei wneud a'u rôl wrth lunio polisïau ar sail tystiolaeth (EBPM).
A yw KBOs yn hwyluso EBPM? A critical review (2020) Does knowledge brocering facilitate evidence-based policy? A review of existing knowledge and an agenda for future research in: Policy & Politics Volume 48 Issue 2 (2020) (bristoluniversitypressdigital.com)
Mae'r gwaith ymchwil hwn yn adolygu'r llenyddiaeth i archwilio beth yw brocera gwybodaeth ac a yw'n gweithio.
Fe wnaethom ymchwilio i sut y daeth cyrff tebyg sy'n broceru tystiolaeth, a elwir yn 'gyrff broceru gwybodaeth', i'r amlwg mewn gwahanol wledydd.
Erthygl cyfnodolyn academaidd a gyhoeddwyd yn Evidence and Policy: https://bristoluniversitypressdigital.com/view/journals/evp/19/1/article-p22.xml
Blog a gyhoeddwyd yn Evidence and Policy: https://evidenceandpolicyblog.co.uk/2022/10/12/understanding-organisations-that-provide-evidence-for-policy/
Gwnaethom hefyd archwilio datblygiad a gwaith math penodol o gyrff broceru gwybodaeth: Canolfannau What Works (WWCs) y DU. Mae'r Canolfannau What Works hyn wedi dod i'r amlwg dros y degawd diwethaf (mwy yn achos y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)). Fe wnaethom archwilio'r gwaith amrywiol maen nhw'n ei wneud wrth froceru tystiolaeth, y perthnasoedd maen nhw'n eu meithrin gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a sut maen nhw'n sefydlu eu hygrededd.
Erthygl cyfnodolyn academaidd a gyhoeddwyd yn Science and Public Policy: https://academic.oup.com/spp/article/50/6/950/7204580
The role of WCPP in providing external policy advice in Wales (2023) Externalising policy advice within subnational governments in: Policy & Politics Volume 51 Issue 4 (2023) (bristoluniversitypressdigital.com)
Roedd y papur hwn yn defnyddio'r cysyniad o systemau cynghori ar bolisi (PAS) i ddadansoddi datblygiad a deinameg cyngor ar bolisi yng Nghymru.
BLOGIAU/CYNNWYS ARALL:
Blog ar gyfer Polisi a Gwleidyddiaeth: Knowledge brokering for policy: What do we know? – Policy & Politics Journal Blog (policyandpoliticsblog.com)
Blog ar gyfer LSE Impact ar rôl sefydliadau brocera gwybodaeth (ar wahân i sefydliadau ffiniau ac entrepreneuriaid polisi): Knowledge brokering organisations - what are they and what do they do? | Impact of Social Sciences (lse.ac.uk)
Blog WCPP: Deall sefydliadau sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer polisi | CPCC
Podlediad Gwyddoniaeth ar gyfer Polisi ar rôl sefydliadau brocera gwybodaeth: Eleanor MacKillop & James Downe on knowledge brokering organisations - YouTube
Blog ar gyfer LSE Impact: https://blogs.lse.ac.uk/impactofsocialsciences/2023/08/15/knowledge-brokering-organisations-what-are-they-and-what-do-they-do/ "