Rydym yn edrych ar dystiolaeth ac arbenigedd ynghylch sut gall Cymru gyflawni twf a datblygiad economaidd lleol drwy fframwaith pontio teg, gan gefnogi cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae sero net yn llawer mwy na tharged hinsawdd. Mae’n gyfle economaidd a all helpu Cymru i dyfu economïau lleol ffyniannus, lleihau anghydraddoldebau a sicrhau swyddi gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae pwysau amgylcheddol eisoes yn effeithio ar natur, cymunedau ac iechyd cyhoeddus ledled Cymru, ac mae oedi wrth gymryd camau gweithredu yn arwain at risgiau a chostau uwch yn y dyfodol.
Cyn etholiad 2026 y Senedd, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Materion Cymreig i gynnal cyfres o weminarau a oedd yn edrych ar yr heriau polisi allweddol a oedd yn wynebu Llywodraeth nesaf Cymru.
Roedd adeiladu economïau lleol ffyniannus drwy fframwaith pontio teg yn edrych ar y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan y newid i sero net, gan ystyried sut gall ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, cydnerth a chynhwysol.
Daethom â phanel o arbenigwyr annibynnol at ei gilydd i ystyried y cwestiynau canlynol:
1. Sut gall y newid i sero net fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ardaloedd lleol drwy adeiladu ar gryfderau presennol economïau lleol?
2. Pa sgiliau sydd eu hangen i gefnogi busnesau a chymunedau i sicrhau bod Cymru'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y newid?
Siaradwyr:
Dr Helen Tilley, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Llywodraeth Cymru)
Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru
Henry Richards, Uwch Arweinydd y Dyfodol, yr Academi Brydeinig
Andy Regan, Pennaeth Nesta Cymru
Gwyliwch y weminar a darllenwch beth mae’r panelwyr yn ei ddweud yn eu blogiau gwadd.