Mynd ir afael ag unigrwydd mewn oedolion hŷn drwy dechnoleg

Mae unigrwydd yn deimlad goddrychol a brofir pan fo bwlch rhwng cyswllt cymdeithasol dymunol a gwirioneddol (Age UK, 2021). Er bod unigrwydd yn wahanol i ynysu cymdeithasol, sy'n cyfeirio at ddiffyg yn nifer y cysylltiadau cymdeithasol yn hytrach nag ansawdd y cysylltiadau cymdeithaso, mae arwahanrwydd yn cynyddu'r risg o unigrwydd.

Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl hŷn. Mae hwn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ers cyn pandemig COVID-19. Yn ystod y pandemig, cynyddodd mesurau pellhau cymdeithasol y risg o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol a chyflymwyd y defnydd o dechnoleg i hwyluso cyswllt a chysylltiad cymdeithasol.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i WCPP weld a yw pobl wedi defnyddio technoleg i feithrin cysylltiadau a lleddfu unigedd ac ynysu cymdeithasol ymhlith oedolion hŷn Cymru yn ystod pandemig COVID-19. Fel rhan o'r gwaith hwn, comisiynwyd Prifysgol Caerfaddon i wneud yr ymchwil. Roedd yr ymchwil yn cynnwys arolwg a chyfweliadau gyda darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chyfweliadau gyda defnyddwyr gwasanaethau oedolion hŷn. Ceisiodd archwilio sut, ac i ba raddau, y mae technolegau digidol wedi cael eu defnyddio i fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith oedolion hŷn yn ystod y pandemig ac i nodi’r hyn y gellid ei ddysgu ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol i fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith y grŵp hwn.

Casgliadau allweddol o’r ymchwil sy’n cynnwys cyfweliadau gyda darparwyr gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddiwr gwasanaeth oedolion hŷn:

- Gwahaniaeth sylweddol yn allu digidol oedolion hŷn sy’n dangos yr angen i asesu’r parodrwydd technolegol yn gyson a darparu hyfforddiant.

- Mae defnydd o dechnoleg yn gallu fod yn anodd i rai grwpiau o bobl, er enghraifft defnyddiwr gyda dementia neu rai sy’n drwm eu clyw, serch hyn mae’n hefyd yn rhoi cymorth enfawr i eraill fel gofalwyr di-dâl.

- Mae’r gofid sydd gan bobl hŷn o ran sgamiau yn gallu effeithio eu cymhelliant a’u dymuniad i fod yn fwy cymwys wrth ddefnyddio technoleg.

- Y defnydd o ffoniau clyfar fel ‘porth’ i ymestyn ei sgiliau digidol.

- Ni ddylai’r heriau'r gweithlu cael ei anwybyddu wrth gynyddu sgiliau staff a ni ddylai gwirfoddolwyr cael ei anwybyddu chwaith.

Darllen Oedolion hyn ar pandemig: Mynd ir afael ag unigrwydd drwy dechnoleg

To top