Dr Kaisa Pankakoski

Ymunodd Kaisa Pankakoski â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fel Cydymaith Ymchwil yn 2026.

Cyn ymuno â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, cwblhaodd hi PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a Chymrodoriaeth Ôl-ddoethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Mae Kaisa yn sosioieithydd sy’n arbenigo mewn polisi iaith teulu, gan ymchwilio i’r broses o drosglwyddo iaith rhwng cenedlaethau, ideolegau ieithyddol a safbwyntiau plant. Cyhoeddwyd ei llyfr, Multilingual Family Language Policy and Wellbeing, ym mis Gorffennaf 2026. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi mewn ystod o gyd-destunau anacademaidd a chyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys Early Child Development and Care.

Mae hi wedi gweithio fel cyfieithydd llawrydd a newyddiadurwr ymchwiliol yn Chile, Ffrainc, Sbaen, y Ffindir, Lloegr a Chymru. Mae gan Kaisa gefndir ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a’r cyfryngau, gyda BA (Anrh) ym maes Astudiaethau Ewropeaidd o Brifysgol Portsmouth ac MA ym maes Newyddiaduriaeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae Kaisa yn gweithio ar brosiectau rhaglen ymchwil, gan gefnogi gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar effaith sefydliadau brocera gwybodaeth a chyfrannu at ddatblygiad ei hadroddiad effaith.

To top