Josie Holley

Ymunodd Josie Holley â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2026 fel Cynorthwyydd Ymchwil Effaith Sefydledig. Mae hi’n gweithio ar y cyd â thimau prosiect i gefnogi myfyrio ynghylch sut mae gwaith y Ganolfan yn dylanwadu ar ddefnydd o dystiolaeth mewn polisi a gwneud penderfyniadau am wasanaeth cyhoeddus.

Mae hi wrthi’n cwblhau PhD wedi’i ariannu gan ESRC ym maes y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ei hymchwil, mae’n archwilio’r berthynas rhwng polisi lles, arferion iechyd y cyhoedd a’r trydydd sector, gan ganolbwyntio’n benodol ar bresgripsiynu cymdeithasol celfyddydau cymunedol ac arferion sy’n seiliedig ar fyd natur. Mae’n trafod sut mae’r dulliau yma’n cael eu deall, eu hariannu, a’u lleoli yng nghyd-destun llywodraethu, a sut maen nhw’n cefnogi lles perthnasol, diwylliannol a lles sy’n seiliedig ar leoedd mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol yn Ne Cymru.
Dulliau ymchwil ansoddol, cyfranogol a chreadigol yw ei chefndir. Ynghyd â’i hymchwil ddoethurol, mae hi hefyd wedi ymgymryd â gwerthusiad cymhwysol â sefydliadau yn y trydydd sector i gyflwyno rhaglenni celfyddydau er lles mewn cymunedau.

To top