Ymunodd Johanna Meyer â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2026 yn Ymchwilydd Cyswllt yn nhîm ymchwil y Ganolfan. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddulliau ac arferion cywain gwybodaeth.
Mae Johanna wedi gweithio o'r blaen ym maes ymgysylltu â byd polisi yn Sefydliad Ymchwil Polisi Prifysgol Caerfaddon yn Gynorthwyydd Ymchwil ar brosiectau a oedd yn ymwneud â pholisi addysg uwch ac yn ddadansoddwr data llawrydd. Mae ganddi gefndir ym maes seicoleg ac ieithyddiaeth, a phwnc ei doethuriaeth oedd mapiau sy’n offer cyfathrebu iechyd cyhoeddus yn ystod pandemig Covid-19. Mae ganddi hefyd flynyddoedd lawer o brofiad o ddysgu dulliau ymchwil ac mae'n Gymrawd Cyswllt yr Academi Addysg Uwch.