Ymunodd Carys â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn Brentis Ymchwil ym mis Gorffennaf 2026.
Cyn ymuno â'r ganolfan, roedd Carys yn gynorthwyydd ymchwil iechyd cyhoeddus gyda'r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd ar nifer o brosiectau yn ymwneud â phenderfynyddion ehangach iechyd, gan gynnwys unigrwydd a chysylltiadau cymdeithasol yng Nghymru. Bu Carys hefyd yn gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gefnogi datblygiad ymyriad digidol ar gyfer newid ymddygiad i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae gan Carys radd BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Caerdydd a gradd MSc mewn Seicoleg Iechyd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Rhoddodd y rhain wybodaeth iddi am sut mae penderfynyddion ehangach iechyd yn dylanwadu ar les y boblogaeth yng nghyd-destun Cymru.