Sut mae gwneud i lywodraeth weithio i bawb?
Cwestiwn beirniadol ym maes polisi cyhoeddus yw sut mae llywodraethau’n sicrhau newid mewn cymdeithas. Mae llunwyr polisïau ledled y byd yn ceisio mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn a’r ffordd y mae llywodraethau’n galw ar weithredwyr eraill ac yn gweithio gyda nhw i allu sicrhau newid. Mae’r ystod gyfyngedig o bwerau ffurfiol sydd ar gael i lunwyr polisïau cenedlaethol yng Nghymru’n golygu bod yr her hon yn fwy cymhleth ac acíwt. Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn y maes hwn yn edrych ar rôl tystiolaeth yn y gwaith o lunio polisïau effeithiol a sut i ddatblygu polisïau y gellir eu gweithredu.