Cynorthwyydd ymchwil (tan Mawrth 2028)

Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, a sy’n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy'n berthnasol i bolisïau. Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio wrth wraidd y dadleuon polisi cyfredol, ac yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth.

Byddwch yn gweithio gydag ymchwilwyr profiadol a chyfryngwyr gwybodaeth i gwmpasu, dylunio a chyflawni prosiectau paratoi gwybodaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a chael eich mentora gan uwch staff y Ganolfan.

Rydyn ni wedi datblygu tri maes blaenoriaeth yn seiliedig ar ddadansoddi’r heriau polisi mwyaf sy'n wynebu llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Ein tri maes blaenoriaeth yw: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, lles cymunedol a’r amgylchedd a sero net. Ochr yn ochr â'r rhain, rydyn ni’n arwain cydweithrediad ymchwil penderfynyddion iechyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae gennyn ni 12 mlynedd o brofiad o lunio polisïau yng Nghymru, gan gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau gyda thystiolaeth ac arbenigedd annibynnol a llunio polisïau a dulliau o’u gweithredu mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys yr amgylchedd, cyfiawnder cymdeithasol, llywodraethu, iechyd ac addysg. Rydyn ni hefyd yn cadw’r hyblygrwydd a’r arbenigedd i allu ymgymryd â phrosiectau ymchwil eraill mewn ymateb i anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau.

Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiwn canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Mae’n rhaid i’ch ateb BEIDIO â bod yn fwy na chyfanswm o 300 gair.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn darparu tystiolaeth sy’n galluogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud penderfyniadau ynghylch polisïau a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dewiswch faes polisi y mae gennych chi brofiad amlwg ohono gan egluro a yw'n ymwneud â meysydd blaenoriaeth y Ganolfan. Yna amlinellwch sut y byddech yn cywain y dystiolaeth i ateb cwestiwn heriol yn y maes polisi hwn. Yn olaf, amlygwch y ffactorau allweddol y mae angen eu hystyried ynglŷn â safon y dystiolaeth hon er mwyn sicrhau ei bod yn ddigon cadarn i helpu llunwyr polisïau Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Helen Tilley, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Llywodraeth Cymru) – helen.tilley@wcpp.org.uk

Mae hon yn swydd amser llawn (35 awr) sydd ar gael ar unwaith tan 31 Mawrth 2028.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn fenter unigryw gwerth £9 miliwn sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd. Rydym yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a gwneud penderfyniadau drwy wneud tystiolaeth drylwyr ac arbenigedd yn hygyrch, yn berthnasol, ac yn ymarferol i lunwyr polisïau, ymarferwyr ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae polisïau ac ymarfer cyhoeddus yn cael eu llunio’n gyson gan y dystiolaeth a’r wybodaeth orau sydd ar gael, gan arwain at wasanaethau cyhoeddus sy’n fwy effeithiol, cyfiawn ac ymatebol.

Ein cenhadaeth yw:

DATBLYGU. Rydyn ni’n ehangu gwybodaeth ym maes polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy rannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu, gwerthuso effaith, a chyfrannu at gronfa wybodaeth gynyddol o'r hyn sy'n gweithio'n ymarferol.
NODI. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i’w helpu i adnabod eu heriau polisi mwyaf difrifol a llunio cyfleoedd ystyrlon er mwyn creu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
YMGYNNULL. Rydyn ni’n dadansoddi ac yn cyfosod ymchwil o safon uchel mewn modd amserol ac rydyn ni’n dwyn ynghyd arbenigwyr yn y DU ac yn fyd-eang i wella penderfyniadau polisi, a’r broses o’u rhoi ar waith.

To top