Pa opsiynau polisi sydd gan Gymru i adeiladu gwell system iechyd a gofal cymdeithasol mewn tirwedd wleidyddol sy’n newid yn barhaus?
Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu cyfres o heriau cymhleth ac amlochrog, a waethygwyd gan bandemig y coronafeirws. Unwaith y bydd y pwysau uniongyrchol yn cilio, bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu amrywiaeth o heriau systemig a heriau sy’n gysylltiedig â’r gweithlu, yng nghyd-destun anghenion iechyd heriol y boblogaeth. Mae llawer o’r rhain wedi bod yn broblem ers degawd. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda’r sector i edrych ar sut, yn y cyd-destun hwn, y gallant gyflawni’r dyheadau ar gyfer ‘trawsnewid’ y ddarpariaeth iechyd a gofal.