Sut gallwn ni symud at economi Cymru wedi’i datgarboneiddio sy’n fwy gwydn, ffyniannus a chynhwysol?
Mae’r newid i sero net yn gyfle i symud i economi sy’n gallu ymateb yn well i anghenion y dyfodol ac sy’n cefnogi cymdeithas fwy cyfartal a llewyrchus. Mae’r addasiad hefyd yn cyflwyno heriau y bydd angen eu goresgyn gan gynnwys datblygu’r sgiliau ar gyfer marchnad lafur werdd. Mewn ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau hyn, mae rhaglen Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau WCPP yn archwilio cwestiynau allweddol gan gynnwys sut olwg allai fod ar economi a chymdeithas werdd yn y dyfodol, beth allai ei olygu i bolisïau ac arferion yng Nghymru a pha fuddsoddiadau mewn sgiliau a sefydliadau ategol eraill fydd eu hangen.