Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i greu a monitro cynnwys ar draws amrywiaeth o sianeli digidol, gyda ffocws penodol ar ddiweddaru a chreu cynnwys ar gyfer gwefan a chylchlythyrau digidol y Ganolfan.
Mae WCPP yn pontio byd ymchwil a pholisi a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu, chreu a monitro cynnwys ar draws ystod o sianeli digidol, gyda chanolbwynt arbennig ar wefan y Canolfan, cylchlythyrau a llwyfannau eraill sydd yn helpu ein tîm i gyfathrebu ein gwaith i lunwyr polisi, partneriaid ymchwil a rhanddeiliaid allweddol eraill.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon, bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr rhagorol â sgiliau digidol cryf, yn enwedig wrth ddefnyddio systemau rheoli cynnwys a meddalwedd ymgyrchoedd e-bost. Bydd dehongli gwybodaeth gymhleth, dechnegol a sensitif, weithiau, a’i chyfleu i ystod eang o gynulleidfaoedd, yn hanfodol er mwyn cyflawni eich gwaith.