Uwch-gymrawd Ymchwil

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gwahodd ceisiadau am Uwch Gymrawd Ymchwil i ymgymryd â rôl arwain yn y Ganolfan, gan gymryd lle'r Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer presennol (Gwasanaethau Cyhoeddus). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â grŵp rheoli'r Ganolfan, ac yn rhannu cyfrifoldeb am lunio ei chyfeiriad yn y dyfodol.

Mae hon yn rôl uwch o fewn y Ganolfan, sy'n cynnig y cyfle i arwain rhaglenni ymchwil ac ymgysylltu, rheoli timau a phartneriaethau, a chyfrannu at gyfeiriad strategol gwaith y Ganolfan. Byddwch yn gweithio wrth galon trafodaethau polisi cyfredol, gan feithrin perthnasoedd cryf â llunwyr polisi ac ymarferwyr, ac yn ffurfio datblygiad a chyflawni ymchwil a gweithgarwch polisi effeithiol.

Mae hon yn rôl lawn amser tan ddiwedd y tymor grant presennol ar 31 Mawrth 2028. Rydym yn agored i drefniadau rhannu swydd a gweithio hyblyg, megis oriau cywasgedig. 

Anogir ymgeiswyr sydd â diddordeb i gysylltu â Chyfarwyddwr y Ganolfan, Dan Bristow: dan.bristow@ wcpp.org.uk

CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i ymgeisio.

To top