Fel rhan o'i phrosiect Lleisiau Abertawe; Herio Stigma Tlodi Gyda'n Gilydd, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfres o ffotograffau o bobl a lleoedd o amgylch Abertawe sy'n dangos arferion cynhwysol a chefnogol yn unol ag argymhellion allweddol yr ymchwil. Cafodd y gyfres ei chyd-gynllunio gyda'r tîm o ymchwilwyr cymunedol a gyd-gynhyrchodd yr ymchwil a gwnaed y delweddau gan Sukhy Hullait sy'n creu ffotograffiaeth rymusol sy’n seiliedig ar brofiadau a realiti cymunedau ac sydd wedi arwain prosiectau lluniau heb stigma eraill gan gynnwys ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree.
Ychwanegodd Amanda Hill-Dixon, “Ein nod oedd creu delweddau o leoedd yn Abertawe sy’n bwysig i bobl a chymunedau, ac i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sydd wedi’i arwain gan brofiad bywyd ac arbenigedd cymunedol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y lluniau hyn yn chwarae rhan wrth helpu i newid y naratif ynghylch profiadau pobl o dlodi.”
Mae'r gyfres luniau'n cynnwys Canolfan Phoenix Townhill, Y Storfa, canolfan aml-ddefnydd canol dinas Cyngor Abertawe, elusen digartrefedd Crisis Skylight, Cwtch Mawr, banc aml-fanc cyntaf Cymru a Grŵp Eiriolaeth Eich Llais, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Dyma a ddywedodd Leanne Dower, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Phoenix, “Rydyn ni’n ein gweld ein hunain fel rhan annatod o gymuned falch a chadarnhaol iawn. Pobl Townhill yw’r rheswm dros ein llwyddiant ac mae ein cryfder yn dod o wrando ar ein trigolion ac addasu'n gyson i'w hanghenion. Er enghraifft, daeth y penderfyniad i redeg siop gymunedol yn hytrach na banc bwyd o adborth gan ein cymuned a'i nod yw cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â banciau bwyd.”
Ychwanegodd Michelle Hopkins, sy’n ymchwilydd cymunedol: “Y peth pwysicaf yw bod pobl yn gwybod pa wasanaethau rheng flaen sydd ar gael a sut i gael gafael arnyn nhw. Pan fydd lleoedd yn groesawgar a bod polisi 'dim drws anghywir', mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd meddwl pobl pan fyddan nhw eisoes mewn argyfwng. Mae'r bobl a'r lleoedd yn y lluniau yn y gyfres hon yn enghreifftiau gwych o hynny.”
Delweddau © Sukhy Hullait, a gomisiynwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.




















