Blwyddyn Newydd Dda i'n partneriaid, i’n cydweithwyr ac i bawb sy'n dilyn ein gwaith.
Fel llawer ohonoch, rydw i wedi bod yn treulio ychydig o amser yn diweddaraf yn meddwl am yr hyn a allai fod o’n blaenau yn 2026.
Mae etholiad pwysig y Senedd yn agosáu a hynny o fewn cyd-destun ehangach o newid ac ansicrwydd.
Mae'r DU yn dal i wynebu heriau domestig dyrys - economi wan, amgylchedd cyllidol tynn, a nifer o arwyddion o wasanaethau cyhoeddus a seilwaith sydd angen eu gwella. Mae pob un o'r rhain yn cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd a llesiant pobl, yn enwedig y rhai mwy difreintiedig ac ymylol yn ein cymdeithas.
Mae angen i lywodraethau ledled y DU fynd i'r afael â'r heriau hyn ar yr un pryd â cheisio mynd i'r afael â'r tueddiadau ehangach sy’n digwydd - newid mewn demograffeg; datblygiadau technolegol arloesol; yr angen i addasu i hinsawdd sy'n newid ar yr un pryd â pharhau ag ymdrechion i ddatgarboneiddio; a'r diffyg lle ar gyfer trafodaeth gyhoeddus adeiladol ynghylch sut rydym ni'n mynd i’r afael â hyn i gyd.
Os yw'n swnio i mi gael amser digon digalon dros wyliau’r Nadolig, peidiwch â digalonni. Mae yna dal resymau i fod yn obeithiol.
Un o'r prif resymau yw nifer yr unigolion a'r sefydliadau sy'n angerddol dros geisio goresgyn yr heriau hyn. Rwy'n ffodus fy mod yn cael treulio fy niwrnod gwaith yn cyfathrebu â phobl o'r fath. Wrth gwrs, rwy'n meddwl am fy nghydweithwyr CPCC, ond hefyd am ein gwahanol bartneriaid o'r byd academaidd, y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Yn ogystal â'r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o'r materion rydym yn gweithio arnynt.
Yn y Ganolfan, ein cyfraniad yw cefnogi'r defnydd o'r dystiolaeth a'r ddealltwriaeth orau sydd ar gael. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled Cymru i nodi'r materion y gallwn eu cefnogi, ac i ddod â'r ymchwil a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt at ei gilydd i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Wrth i Gymru geisio mynd i'r afael â'r heriau a wynebir, a delio â’r newid a'r ansicrwydd sydd o'n blaenau, mae'r Ganolfan yn dal yn sicr o werth tystiolaeth i wneud penderfyniadau; ac o werth gweithio ar y cyd ag eraill i gefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Yn y tymor byr, rydym ni'n falch iawn o fod yn cydweithio â'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) i gyflwyno cyfres o weminarau cyn yr etholiad - Y ffordd ymlaen: Tystiolaeth a gwybodaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Bydd pedair gweminar sy'n herio'r meddwl dros y ddau fis nesaf yn canolbwyntio ar her polisi yn un o'r meysydd rydym ni’n blaenoriaethu - Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net, a Llesiant Cymunedol - ynghyd â dyfodol llywodraeth leol - gyda mewnbwn gan siaradwyr gwadd arbenigol, a chyfleoedd i ymgysylltu â'r gynulleidfa.
Yn y tymor hwy, bydd gennym Senedd newydd sbon estynedig, ac felly rydym yn paratoi i weithio gydag Aelodau newydd y Senedd a'r Llywodraeth newydd i'w galluogi i ddefnyddio tystiolaeth amserol, berthnasol a hygyrch.
Ond yn y cyfamser, mae ein gwaith gyda phartneriaid mewn llywodraethau lleol, a'r sector cyhoeddus ehangach, yn parhau.
O ganlyniad, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ddysgu ac i esblygu ein hymarfer; ac fel rhan o hyn, byddem wir yn gwerthfawrogi eich adborth ar ein perfformiad. Defnyddiwch y ddolen i gwblhau ein harolwg byr.