Beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth ar gyfer polisi?

Yn ystod y pandemig Covid-19, daeth y cysyniad o 'ddilyn y wyddoniaeth' yn gyffredin. Ond gall yr hyn a olygir gan dystiolaeth amrywio yn ôl pwy a ofynnir, y cyd-destun, a ffactorau eraill. Gwnaethom ymchwil i ddadansoddi canfyddiadau gweithredwyr polisi yng Nghymru tuag at dystiolaeth. Mae'r canfyddiadau hyn yn bwysig oherwydd byddant yn effeithio ar pam mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio ai peidio gan wahanol weithredwyr polisi ac, yn y pen draw, ar sut mae polisi'n cael ei lunio.

Er mwyn ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwn, fe ddefnyddion ni fethodoleg C - sy'n ddull cymysg a ddatblygwyd i astudio agweddau a chanfyddiadau unigolion. Mae’n golygu bod cyfranogwyr yn rhestru set o ddatganiadau ar beth yw tystiolaeth a'i rôl wrth lunio polisïau. Casglwyd y datganiadau hyn o lenyddiaeth oedd eisoes yn bodoli, papurau newydd a chyfweliadau arbenigol . Wrth gwrdd ar-lein (oherwydd y pandemig Covid-19), gofynnwyd i bob cyfranogwr roi'r datganiadau mewn trefn pyramid cytuno-i-anghytuno (+4 to -4); cymryd llun o'r datganiadau terfynol wedi'u rhestru; a llenwi holiadur byr am eu barn ar dystiolaeth.

Fe wnaethom gynnal gyfweliadau â 34 o gyfranogwyr o bob rhan o gymuned polisi Cymru, o Weinidogion i weision sifil, staff y Senedd, yn ogystal â sefydliadau cymdeithas sifil ac academyddion, i drafod eu canfyddiadau o dystiolaeth ar gyfer polisi.

Mae tri cham i'r prosiect hwn:

Cam 1: Beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth yng Nghymru: cyfweliadau â 34 o gyfranogwyr o bob rhan o gymuned polisi cenedlaethol Cymru, o Weinidogion i weision sifil, staff y Senedd, yn ogystal â sefydliadau cymdeithas sifil ac academyddion, i drafod eu canfyddiadau o’r hyn sy'n cyfrif fel tystiolaeth ar gyfer polisi.

Darllenwch fwy am y blog LSE hwn gan Dr Eleanor MacKillop a’r Athro James Downe o CPCC: https://blogs.lse.ac.uk/impactofsocialsciences/2023/01/10/researchers-engaging-with-policy-should-take-into-account-policymakers-varied-perceptions-of-evidence/

Cafodd ein hymchwil hefyd sylw mewn adolygiad blynyddol ar Rethinking Research Impact: https://blogs.lse.ac.uk/impactofsocialsciences/2023/12/29/2023-in-review-rethinking-research-impact/

Briff polisi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Beth-syn-cyfrif-fel-tystiolaeth-ar-gyfer-polisi.pdf (wcpp.org.uk)

Cam 2: Beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth yng Nghymru a'r Alban: Cymharu diwylliannau yr Alban a Chymru o ran tystiolaeth.

Mae rhagor o wybodaeth isod:

BLOG: Understanding evidence in policy making by WCPP’s Grace Piddington, Dr Eleanor Mackillop and Professor James Downe (Policy and Politics): https://policyandpoliticsblog.com/2024/06/05/understanding-evidence-in-policy-making/]

Erthygl cyfnodolyn academaidd Do policy actors have different views of what constitutes evidence in policymaking? Gan Grace Piddington, Eleanor MacKillop a James Downe (Polisi a Gwleidyddiaeth) o CPCC: https://bristoluniversitypressdigital.com/view/journals/pp/52/2/article-p239.xml

Cam 3: Beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth: Cymharu lefelau gwneud penderfyniadau cenedlaethol a lleol yng Nghymru. Allbynnau i ddod.”

To top