Beth sy'n Gweithio wrth Heneiddio'n Well?

Mae dros 650,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru, sy’n cynrychioli 21% o boblogaeth Cymru.  Mae sicrhau bod Cymru’n lle da i heneiddio yn flaenoriaeth i’r llywodraeth, i wasanaethau cyhoeddus ac i gymunedau.  Mae rhaglen y Comisiynydd Pobl Hŷn ‘Heneiddio’n Dda yng Nghymru’ a Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (2013-2023) ‘Byw’n hwy, heneiddio’n dda’ yn dangos bod awydd i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd y digwyddiad yng ngofal Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a SPARK, a bydd Dr Anna Dixon, Prif Weithredwr y Ganolfan Heneiddio’n Well, yn edrych ar ba newidiadau sy’n angenrheidiol o ran polisi ac ymarfer i greu cymdeithas lle mae pawb yn mwynhau bywyd wrth heneiddio.  Bydd hi’n siarad am y dystiolaeth a’r ddealltwriaeth a gafwyd o waith Heneiddio’n Well mewn meysydd megis cyflogaeth, iechyd, tai a chymunedau, yn ogystal â gwaith ehangach ar wahaniaethu ar sail oed.

Bydd hi’n trafod yn gryno rôl Heneiddio’n Well fel Canolfan ‘What Works’ a sut maen nhw’n defnyddio tystiolaeth i gyflawni newid, yn ogystal â chefnogi arloesedd a gweithredu.

Dilynir anerchiad Anna gan drafodaeth panel gyda Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac Dr Martin Hyde, Athro Cysylltiol Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe, a sesiwn Holi ac Ateb, gyda chyfle i archwilio perthnasedd gwaith Heneiddio’n Well i flaenoriaethau yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn brin, felly gofynnwn i chi gofrestru.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.