Polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru mewn cyfnod heb ei debyg o’r blaen

Mae caledi, datganoli pwerau ymhellach, materion fel poblogaeth sy'n heneiddio a newid yn yr hinsawdd, ac wrth gwrs Brexit i gyd yn amodau a digwyddiadau pwysig sy'n arwain at ansicrwydd, ansefydlogrwydd a sefyllfa ddigynsail ym mholisi a gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r materion hyn yn effeithio ar sut a pham y gwneir polisi a chyflenwir gwasanaethau. Mae hwn hefyd yn amser da sydd angen myfyrio a dadansoddi, lle mae nifer o randdeiliaid - gweinidogion, gweision sifil, gwleidyddion, gweithwyr proffesiynol, academyddion a dinasyddion - yn adolygu ac yn ailddiffinio pwrpas a chanlyniadau polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Wedi'i gynnal mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), daeth y digwyddiad undydd hwn ag academyddion at ei gilydd ar bob cam o'u gyrfa, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a chymdeithas sifil, i drafod y cwestiynau hyn , arferion presennol ac yn y dyfodol, a chyfleoedd ar gyfer polisi a gwleidyddiaeth Cymru.

Roedd y diwrnod fel a ganlyn (mae dolenni i'r cyflwyniadau PowerPoint sydd ar gael i'r ochr / isod. Mae'r rhain ar gael yn Saesneg yn unig):

 

Panel Un: Gwybodaeth a thystiolaeth yng Nghymru a’i rôl wrth greu polisïau

Trafodwraig: Anna Nicholl (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)

Michelle Black (Prifysgol Sheffield), Claire Beynon (Iechyd Cyhoeddus Cymru), ac eraill: ‘Dysgu ar draws y DU: Adolygiad o systemau iechyd cyhoeddus ac agweddau polisi at ddatblygiad cynnar plant ers datganoli gwleidyddol'

Paul Worthington a Helen Hodges (Prifysgol Caerdydd): ‘Natur a graddfa’r ddyled i wasanaethau cyhoeddus a safbwynt dinasyddion: Tlodi o ran tystiolaeth?’

Nerys Edmonds a Liz Green (Iechyd Cyhoeddus Cymru): ‘Cyfuno tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg er mwyn hybu a diogelu iechyd a llesiant mewn cyfnod o ansicrwydd: Asesiad o Effaith Brexit ar Iechyd yng Nghymru’

Helen Hodges (Prifysgol Caerdydd): ‘A oes gennym y data cywir i ddatrys y broblem? Amrywiadau yng nghyfraddau’r plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru’


Datganoli a Brexit - ‘sgwrs’ gyda Jo Hunt a Hugh Rawlings

Trafododd yr Athro Jo Hunt a Dr Hugh Rawlings Brexit, datganoli pwerau newydd i Gymru, a'r rôl y gall amrywiol randdeiliaid polisi yng Nghymru - y llywodraeth, y pwerau deddfwriaethol, y gymdeithas sifil a phrifysgolion - ei chwarae.

Gellir lawrlwytho trawsgrifiad Saesneg o'r fideos hyn i'r ochr / isod.

Rhan 1 - Yr Athro Jo Hunt

Rhan 2 - Hugh Rawlings


Panel Dau: Damcaniaethau a dulliau wrth newid polisi: Safbwynt Cymru a datganoli

Trafodwr: James Downe (Prifysgol Caerdydd)

Dr Andrew Connell (Canolfan Polisi Cyoeddus Cymru): A all mesogovernments ddefnyddio offer meta-lywodraethu i fynd i'r afael â phroblemau polisi cymhleth?

Elizabeth Woodcock (Prifysgol Bangor): ‘Ymchwil gydweithredol, integreiddio buddiannau a chyflawni polisïau traws-sectoraidd’

Daniel Roberts (Prifysgol Abertawe): ‘Polisi entrepreneuriaeth yng Nghymru’


Panel Tri: Dyfodol polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru

Trafodwr: Leighton Andrews (Prifysgol Caerdydd)

Leighton Andrews (Prifysgol Caerdydd): ‘Croeso i Ukania: pryfociad’

Bob Smith (Prifysgol Caerdydd): ‘Darparu tai fforddiadwy yng Nghymru mewn cyfnodau heriol’

Rachel Minto ac Alison Parken (Prifysgol Caerdydd): ‘Beth a wnawn heb yr UE? Hybu cydraddoldeb yng Nghymru ar ôl datganoli’

Ian Stafford (Prifysgol Caerdydd): ‘Erioed wedi bod mor agos, ond cyn belled i ffwrdd ag erioed? Archwilio’r cysyniadau o ymddiriedaeth a thryloywder yng Nghymru’


Chyflwyniadau Poster

Esther Dorado Ladera (Academia Europaea): ‘Gwneud synnwyr o wyddoniaeth mewn amodau cymhleth ac ansicr’

Sara O’Shea (Prifysgol Abertawe): ‘Syniadau mawr mewn micro bentref: Gwerthuso prosiect tai â chymorth pobl ifanc yn Llanelli’

Suzanna Nesom (Prifysgol Caerdydd): ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a chreu cynlluniau llesiant’

 

Mae'r Athro Jo Hunt a Hugh Rawlings yn rhoi trosolwg o'u trafodaeth 'mewn sgwrs':

 

 

Mae un o drefnwyr y digwyddiad, Dr Matthew Wall, Athro Cyswllt mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn canmol y digwyddiad, a'i ganlyniadau:

 

Isod mae ein foment Twitter o'r dydd:

 

 

To top