Yr Athro Laura McAllister

Teitl swydd Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Laura McAllister, B.Sc., PhD, CBE, FLSW, FRSA

Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigwr ar ddatganoli, etholiadau a gwleidyddiaeth Cymru, ar gynrychiolaeth y rhywiau ac ar gynyddu nifer y menywod mewn gwleidyddiaeth. Mae’n awdur ar lawer o lyfrau a phapurau, ac yn sylwebydd ac yn brif siaradwr.

Mae’n meddu ar Gymrodoriaethau a graddau o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n gyn aelod o Fwrdd Taliadau’r Cynulliad (2014-15), y Panel Annibynnol ar Gyflogau a Chymorth i ACau (2008-09), Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2002-04). Bu’n gadeirydd ar y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth Llywodraeth Leol (2013-14); yn Gadeirydd ar Banel Arbenigwyr y Cynulliad ar Ddiwygio Etholiadol (2017); yn gyd-gadeirydd ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2021-24).

Bu’n Is-lywydd ar UEFA ac yn aelod etholedig o’i Bwyllgor Gwaith. Yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cynaliadwyedd Cymdeithasol ac Amgylcheddol UEFA. Yn ddirprwy Gadeirydd ar Bwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA.

Yn gyn-gapten tîm pêl-droed rhyngwladol a chenedlaethol Cymru gyda 24 o gapiau, yn Gadeirydd ar Chwaraeon Cymru (rhwng 2010-16). Tan fis Ebrill 2016, bu’n Aelod o Fwrdd UK Sport, sef asiantaeth chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd y Llywodraeth, ac yn gyn Gyfarwyddwr ar Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Bu’n gadeirydd ar Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Yn gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Boduan yn Awst 2023.

Cafodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.

Tagiau