Mae James Downe yn Athro mewn Polisi Cyhoeddus a Rheolaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae wedi dal swyddi academaidd yn y gorffennol ym Mhrifysgol Plymouth ac Ysgol Busnes Warwick.
Mae ganddo fwy na phymtheg mlynedd o brofiad o gynnal gwerthusiadau ar bolisi llywodraeth leol. Mae hynny’n cynnwys prosiect i lywodraeth y DU ar Agenda Moderneiddio Llywodraeth Leol, astudiaeth a ariannwyd gan yr ESRC o gyfundrefnau gwella perfformiad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac ymchwil ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys ei threfniadau gweithrediaeth a chraffu.
Yn ddiweddar mae wedi arwain gwerthusiad o gydweithio rhanbarthol yng Nghymru a phrosiect yn archwilio effeithiolrwydd y dull a arweinir gan y sector o ymdrin â gwelliant mewn llywodraeth leol yn Lloegr.
Ar hyn o bryd mae James yn gweithio ar brosiect Horizon 2020 sy’n archwilio llywodraethu cydweithredol (TROPICO – tropico-project.eu/), yn cynnal ymchwil ar uwch dimau rheoli a rennir mewn llywodraeth leol yn Lloegr, ac yn archwilio sut mae llywodraeth leol Cymru wedi ymdopi â thoriadau mewn cyllid cyhoeddus.
Ei ddiddordebau ymchwil yw cyfundrefnau perfformiad llywodraeth leol, atebolrwydd gwleidyddol, gwelliant a arweinir gan y sector, ymddiriedaeth y cyhoedd ac ymddygiad moesegol gwleidyddion lleol. Mae wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion academaidd gan gynnwys: Public Administration Review, Public Administration, Policy & Politics, Environment and Planning C: Government and Policy, Public Management Review a’r International Review of Administrative Sciences. Cliciwchyma i weld ei gyhoeddiadau.
Bu James yn gwasanaethu ar Banel Arbenigol Llywodraeth y DU ar lywodraethiant lleol. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid yr ESRC ac yn is-gadeirydd Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Caerdydd.