Yr Athro Annette Boaz

Teitl swydd Athro Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Coleg y Brenin, Llundain

Mae Annette Boaz yn Athro Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol NIHR y DU yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o gefnogi’r dull defnyddio tystiolaeth ar draws amrywiol feysydd polisi. Roedd hi’n rhan o un o’r buddsoddiadau mwyaf yn y DU yn y dirwedd defnyddio tystiolaeth, Canolfan Polisi ac Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth yr ESRC ac roedd yn Olygydd Sefydlol i’r Cyfnodolyn Evidence & Policy.

Mae wedi ysgwyddo rôl arwain ryngwladol i hyrwyddo’r dull defnyddio tystiolaeth, gan gyhoeddi’n ddiweddar lyfr newydd ar ddefnyddio tystiolaeth ‘What Works Now’ a chyd-arwain Transforming Evidence gyda Kathryn Oliver.

Mae’n aelod o Bwyllgor Cynghori Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar Ymchwil Iechyd ac yn cynghori Sefydliad Iechyd y Byd ar nifer o brosiectau rhyngwladol.

Yn ddiweddar, cwblhaodd gymrodoriaeth yn Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU.

Tagiau