Sara Jones

Teitl swydd Cyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Cymru

Mae gan Sara gefndir eang ac amrywiol yn gweithio ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ers dros 20 mlynedd. Hi yw Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni ymgynghori Bryn Carw, ac fel rhan o’i phortffolio cleientiaid mae’n arwain ar weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer prosiectau arddangos a phrofi ynni gwynt arnofiol ar y môr Llŷr oddi ar arfordir Sir Benfro. Fel Cyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Cymru, mae ganddi ddeng mlynedd o brofiad yn gweithio i fanwerthwyr ledled y DU, yn eu cynghori ar eu gweithgarwch ymgysylltu yng Nghymru ac yn eu helpu i ddatblygu dull gweithredu eu busnesau.

A hithau’n gyn Ddirprwy Arweinydd Cyngor, mae hi wedi hyrwyddo materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth, amddifadedd digidol a chyfiawnder cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar feithrin cysylltiadau cymunedol ar draws y sir.  Cyn hynny, bu’n Bennaeth Cymru i’r asiantaeth gyfathrebu fyd-eang, Grayling, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio i gleientiaid i ddatblygu eu hamcanion a’u presenoldeb yng Nghymru.  Mae Sara’n aelod o fwrdd Undeb Amaethwyr Cymru a Snowsport Cymru.

Tagiau