Rosalind Phillips

Job title Prentis Ymchwil
Organisation Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Contact email rosalind.phillips@wcpp.org.uk

Ymunodd Rosalind Phillips â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn 2023 fel Prentis Ymchwil. Cyn ymuno â WCPP, cwblhaodd Rosalind radd ôl-raddedig mewn Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bryste, a wellodd ei dealltwriaeth o’r broses bolisi a gweithrediad polisi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Fel rhan o’i gradd meistr, dewisodd Rosalind y modiwlau ‘Mudo, Lloches a Hawliau Dynol’, ‘Rhywedd a Thrais’ a ‘Dadansoddiad Rhyngwladol o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol’ gan adlewyrchu ei diddordebau pwnc a’i galluogi i wella ei gwybodaeth am y pynciau hyn ym maes polisi cymdeithasol.

Daeth Rosalind i ddeall polisi Cymru ac effaith datganoli ar lunio polisi yn ystod ei gradd israddedig mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn ymgymerodd ag Interniaeth Ymchwil, yn ymchwilio i gyllidebu cyfranogol ar ôl y prosiect ‘Ein Llais, Ein Dewis, Ein Porthladd’ yng Nghasnewydd, gan ei harwain i ymuno â Chomisiwn Tegwch Casnewydd yn 2022.

Tags