Naomi Alleyne

Teitl swydd Dirprwy Brif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Naomi Alleyne yw Cyfarwyddwr presennol Gofal Cymdeithasol a Thai, a Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), ar ôl bod yn rôl Cyfarwyddwr Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a swyddi eraill gyda’r Gymdeithas ers 2002. Mae ei meysydd cyfrifoldebau yn cynnwys materion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, tai, diogelwch cymunedol, gan gynnwys y gwasanaeth tân ac achub a’r lluoedd arfog, lloches a mewnfudo. Mae hi’n goruchwylio ystod o dimau sy’n darparu cefnogaeth i gynghorau a phartneriaid mewn meysydd megis awtistiaeth, creu cymunedau mwy diogel ac ymfudo.

Cyn ymuno â’r Gymdeithas, roedd Naomi yn secondai i Lywodraeth Cymru, gan weithio ar gydraddoldeb hiliol a lloches, a materion yn ymwneud â mewnfudo. Bu’n gweithio gyda dau Gyngor Cydraddoldeb Hiliol, yn swydd Cyfarwyddwr PMY De-ddwyrain Cymru. Gyda chred angerddol o ran pwysigrwydd cydraddoldeb a thegwch ymhob agwedd ar fywyd, mae Naomi wedi bod yn ffodus o gael gweithio gydag ystod o sefydliadau ac unigolion yn hyrwyddo cydraddoldeb a phwysigrwydd democratiaeth leol, gyda’r nod o wella profiadau a chanlyniadau pobl ar draws meysydd polisi cymdeithasol, allweddol.

Tagiau