Ar hyn o bryd, Lynda yw Cadeirydd Bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd, ac mae wedi gweithio yn y sector tai dros y 15 mlynedd diwethaf, yn ddiweddar fel Prif Weithredwr y Grŵp gyda Chymdeithas Tai Unedig Cymru.
Mae hi wedi cael ei chadarnhau’n ddiweddar fel Darpar Gadeirydd y gymdeithas a fydd yn cael ei ffurfio ar ôl uno Cartrefi Dinas Casnewydd â Melin Homes. Y sefydliad newydd fydd y darparwr tai cymdeithasol mwyaf yng Nghymru.
A hithau’n aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, datblygodd Lynda ei gyrfa ym maes rheoli a phrisio asedau gydag Awdurdod Datblygu Cymru, fel Prif Syrfëwr gyda Llywodraeth Cymru ac fel Pennaeth Prosiectau Cyfalaf Ysgolion gyda Gwerth Cymru.
Mae wedi bod yn aelod o fwrdd RICS (Cymru) ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru. Yn ogystal, roedd yn aelod o Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Tai Arloesol a Grŵp Llywio Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ymysg Ieuenctid Cymru.
Mae Lynda hefyd yn Ynad Heddwch.