Dr Larissa Peixoto Gomes

Job title Swyddog Ymchwil
Organisation Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Contact email Larissa.Peixoto@wcpp.org.uk

Mae Larissa yn Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar y prosiectau Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwirfoddoli a Lles, ac Unigrwydd yng Nghymru.

Mae ei gwaith cynharach wedi cynnwys astudiaethau ar gynrychiolaeth rhywedd, cyllid etholiadol, diogelwch cyhoeddus, seilwaith gofal iechyd cyffredinol, a biwrocratiaethau aml-lefel. Mae diddordebau ymchwil Larissa yn helaeth ac yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau academaidd, cyflwyniadau mewn cynadleddau a gweithio gyda’r cyfryngau ar gyfleu ei chanlyniadau ymchwil i’r cyhoedd.

Mae ganddi radd baglor yn y Gwyddorau Cymdeithasol (2009), a gradd Meistr (2012) a PhD (2019) mewn Gwyddor Wleidyddol, i gyd o Brifysgol Ffederal Minas Gerais, Brasil. Mae’n aelod o’r Sefydliad Ymchwil Agored ac Addysg a Ddosberthir yn Fyd-eang (IGDORE) ac yn cyd-gynnal podlediad Brazil Nuts.

Tags