Mae Dr Jack Price yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), ar ôl ymuno â’r tîm fel Swyddog Ymchwil ym mis Gorffennaf 2019.
Mae gwaith Jack ar gyfer y Ganolfan wedi canolbwyntio’n bennaf ar feysydd blaenoriaeth yr Amgylchedd a Sero Net a Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau gyda ffocws ar ddatgarboneiddio; pontio cyfiawn; ac addysg a sgiliau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn persbectif mwy hirdymor ar newid polisi a deall effeithiau eilaidd penderfyniadau polisi. Mae gwaith arall Jack ar gyfer y Ganolfan yn cynnwys prosiectau ar gydraddoldeb hiliol ac amrywiaeth; atal digartrefedd pobl ifanc; ac effeithiau Brexit ar fasnach, ymhlith eraill.
Mae prosiectau y bu’n gweithio arnynt wedi darparu tystiolaeth ategol ar gyfer llunio polisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys deall sut gellir defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i alluogi pontio cyfiawn i sero net a llywio ei dull o ymdrin â dysgu gydol oes yng nghyd-destun y Ddeddf Ymchwil ac Addysg Drydyddol.
Mae ganddo PhD mewn Athroniaeth ar waith Theodor W. Adorno; MA mewn Athroniaeth Ewropeaidd Ddadansoddol a Modern; a BA(Anrh) mewn Hanes Syniadau ac Athroniaeth, i gyd o Brifysgol Caerdydd. Ariannwyd ei draethawd PhD gan SWW-DTP AHRC a’i gyd-oruchwylio gan Dr Andrew Edgar a Dr Peter Sedgwick (Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Christine Hauskeller (Prifysgol Caerwysg). Mae Jack yn Gymrawd Cyswllt o’r Academi Addysg Uwch.
ID ORCID Jack yw https://orcid.org/0000-0003-1495-6241