Mae Jack yn Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ac ymunodd ym mis Gorffennaf 2019.
Mae’n gweithio ar PhD mewn Athroniaeth ar syniadau cymdeithasol a gwleidyddol Theodor W. Adorno, gan ddadlau y gall damcaniaeth feirniadol Adorno lywio beirniadaeth gymdeithasol gyfoes a helpu i ysgogi a chyfiawnhau gweithredu gwleidyddol. Mae ganddo ddiddordeb yn y cysylltiad rhwng athroniaeth wleidyddol a pholisïau cyhoeddus; newid cymdeithasol ac economaidd; a chysoni cyfiawnder economaidd â chynaliadwyedd. Mae ganddo BA (Anrh) mewn Hanes Syniadau ac Athroniaeth ac MA mewn Athroniaeth Ewropeaidd Ddadansoddol a Modern, y ddau o Brifysgol Caerdydd. Mae Jack yn Gymrawd Cyswllt o’r Academi Addysg Uwch ac mae wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru.
Gellir dod o hyd i ID ORCID Jack yn https://orcid.org/0000-0003-1495-6241