Grace Piddington

Job title Swyddog Ymchwil
Organisation Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Contact email grace.piddington@wcpp.org.uk

Ymunodd Grace â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fel Swyddog Ymchwil ym mis Medi 2022. Mae hi’n gweithio o fewn y tîm ymchwil ar brosiectau sy’n ceisio deall y ffordd orau o ddefnyddio tystiolaeth wrth greu polisïau a fframweithiau sy’n hyrwyddo’r defnydd o dystiolaeth.

Cyn ymuno â WCPP, gweithiodd Grace yn y trydydd sector ar brosiectau yn ymwneud â chynhwysiant digidol a oedd yn cefnogi iechyd a lles pobl yn y gymuned leol. Mae hi’n parhau i weithio yn y maes hwn fel aelod o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ac fel ymddiriedolwr ar fwrdd elusen leol.

Mae gan Grace BScEcon mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (2017), ac MScEcon mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (2019) o Brifysgol Caerdydd. Wrth astudio, roedd ei meysydd diddordeb yn cynnwys y strwythurau rhywedd o fewn sefydliadau rhyngwladol a pholisïau amgylcheddol rhyngwladol.

Tags