Mae Helen Tilley yn Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru lle mae’n cyfarwyddo maes blaenoriaeth Amgylchedd a Sero Net y Ganolfan (rhaglen Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau gynt). Mae ymchwil Helen yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad a gweithrediad polisïau cyhoeddus ar sero net a datgarboneiddio; sgiliau; a chynhyrchiant a thwf economaidd.
Yn flaenorol bu’n gweithio gyda llywodraethau ac asiantaethau rhyngwladol yn Affrica ac Asia ar feithrin gallu i ddefnyddio tystiolaeth wrth lunio polisïau; rheoli a diwygio cyllid cyhoeddus; a datblygu polisïau ar hinsawdd, addysg, twf economaidd a lleihau tlodi.
Mae gan Helen brofiad o arwain timau o ymchwilwyr; hwyluso gweithdai; a datblygu a chymhwyso fframweithiau dadansoddol a methodolegau dysgu a gwerthuso.
Mae gan Helen PhD ac MSc mewn Economeg o SOAS, a BA mewn Economeg o Brifysgol Caergrawnt.