Mae Eleanor yn ymchwilydd â chefndir yn y gwyddorau gwleidyddol, astudiaethau trefniadol ac ymchwil llywodraeth leol. Mae ei gwaith yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnwys, ymhlith materion eraill, ymchwilio i rôl tystiolaeth yn y broses llunio polisïau yng Nghymru ac ym mannau eraill, archwilio’r broses llunio polisïau mewn gweinyddiaethau datganoledig a gwledydd bach, a gwerthuso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a fabwysiadwyd yn ddiweddar yng Nghymru. Mae ei diddordebau’n cynnwys llymder ac argyfyngau, newid sefydliadol, y broses o lunio a newid polisïau.
Cyn ymuno â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, roedd hi’n gweithio mewn rolau ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Llywodraeth Leol (INLOGOV), Prifysgol Birmingham. Yno, bu’n gweithio gyda’r Athro Chris Skelcher ar brosiect Shrinking the State, a ariannwyd gan ESRC, ac yn ymchwilio i gyrff cynghorol a ‘choelcerth y cwangos’ y Glymblaid. Ym Mhrifysgol Lerpwl, bu’n gweithio fel cydymaith ymchwil am dair blynedd ar brosiect Llywodraethu Iechyd a ariannwyd gan Wellcome ac a oedd yn archwilio polisïau ym maes iechyd ers creu’r GIG ym 1948, a rôl economeg yn y maes hwn. Roedd ei PhD (Prifysgol De Montfort, Caerlŷr) yn archwilio mesurau cyni mewn llywodraethau lleol yn dilyn penderfyniad llywodraeth y Glymblaid yn 2010 i gyflwyno toriadau llym i arian llywodraethau lleol.