Dr Anna Skeels

Job title Uwch-gymrawd Ymchwil
Organisation Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Contact email anna.skeels@wcpp.org.uk

Mae Anna Skeels yn Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac ar hyn o bryd mae’n arwain gwaith y Ganolfan ar gydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys astudiaethau ffoaduriaid a mudo, hawliau ac amddiffyn plant, cynnal ymchwil gyda grwpiau a allai fod yn agored i niwed mewn lleoliadau incwm isel a heriol a defnyddio methodolegau cyfranogol. Mae gan Anna ymrwymiad cryf i ymchwilio i’r materion cymdeithasol pwysicaf yng Nghymru.

Mae Anna wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys hawliau a chyfranogiad plant, amddiffyn plant, diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid. Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio yn y maes dyngarol, er enghraifft fel Ymgynghorydd ar gyfer UNHCR ac fel arweinydd Achub y Plant ar gydweithrediad ymarferwyr academaidd sy’n mesur gwahanu plant mewn argyfyngau yn Ethiopia a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo. Cyn ymuno â’r WCPP, hithau oedd Pennaeth Cronfa Arloesedd Dyngarol Elrha (HIF), gan arwain tîm oedd yn cyllido ac yn cefnogi atebion newydd arloesol i wella effeithiolrwydd ymatebion dyngarol.

Mae gan Anna brofiad sylweddol o sefydlu ac arwain mentrau newydd, cydweithio a rheoli timau sy’n canolbwyntio ar brosiectau.

Mae gan Anna PhD o Ganolfan Ymchwil Mudo a Pholisi (CMPR) Prifysgol Abertawe, MA mewn Daearyddiaeth Ddiwylliannol o Brifysgol Columbia Prydeinig a BA mewn Daearyddiaeth Ddynol o Brifysgol Rhydychen.

Tags