Mae Dr Amy Lloyd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a’r Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer). Mae ei rôl yn cynnwys dylunio a chyflwyno rhaglenni gwaith i gefnogi Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf.
Mae Amy yn gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru ac mewn gwasanaethau cyhoeddus i nodi ac ymateb i anghenion tystiolaeth, ac i gryfhau’r llwybrau rhwng cynhyrchu tystiolaeth a’i defnyddio mewn polisi ac ymarfer.
Yn ei rôl flaenorol fel Cymrawd Ymchwil Gweithredu yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, roedd Amy’n canolbwyntio ar gynhyrchu tystiolaeth a allai lywio polisi ac ymarfer ym maes gofal iechyd. Bu’n cydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rheolwyr, ac ar draws disgyblaethau o fewn y byd academaidd i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso atebion arloesol i broblemau cydnabyddedig ym maes gofal iechyd. Hi hefyd oedd dirprwy arweinydd y grŵp ymchwil ansoddol.
Mae gan Amy gefndir ym meysydd cymdeithaseg (BA Anrh), iechyd y cyhoedd (MPH), a darparu gwasanaethau iechyd (PhD).
Blogiau Amy ar gyfer WCPP:
Argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru: beth sy’n ei achosi a beth sy’n cael ei wneud i’w ddatrys?