Mae Dan Bristow yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Yn Gyd-ymchwilydd yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae wedi helpu i sefydlu dull arobryn y Ganolfan, sydd wedi’i arwain gan y galw o baratoi tystiolaeth ymchwil. Mae wedi arwain y gwaith o ddylunio a chyflwyno model sy’n helpu Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y sector cyhoeddus i weld y dystiolaeth orau sydd ar gael, ei deall a’i defnyddio.
Dan hefyd yw Cyd-arweinydd Cydweithfa Ymchwil ar Faterion Iechyd Rhondda Cynon Taf y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal – buddsoddiad gwerth £5 miliwn a fydd yn creu seilwaith newydd i gysylltu ymchwil â pholisi ac ymarfer ac yn dod ag unigolion a sefydliadau ynghyd gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd trigolion Rhondda Cynon Taf.
Dechreuodd ei yrfa’n gweithio yng ngwasanaeth sifil y DU ac mewn sefydliadau yn y trydydd sector. Yn ystod y degawd diwethaf, mae wedi gweithio ar ryngwyneb tystiolaeth academaidd a pholisi cyhoeddus / gwneud penderfyniadau yn y sector cyhoeddus.