Mae Amanda Hill-Dixon yn Uwch Gymrawd Ymchwil a Chyfarwyddwr Rhaglen yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP). Mae Amanda yn arwain maes blaenoriaeth anghydraddoldebau WCPP, ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, a gwaith WCPP ar anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol fel rhan o’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol. Mae ei rôl yn cynnwys datblygu ac arwain gwaith ymchwil a gwybodaeth er mwyn cynhyrchu tystiolaeth ddefnyddiol ac effeithiol ar gyfer llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ymhlith y prosiectau allweddol mae Amanda wedi’u harwain ers ymuno â WCPP mae:
- Cyfres o adolygiadau tystiolaeth cyflym i lywio cynllun gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru
- Rhaglen waith yn archwilio tlodi ac eithrio cymdeithasol i lywio strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru
- Ymchwil barhaus i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â thlodi
- Cymrodoriaeth Arloesedd ESRC a gynlluniwyd i wella gallu, gwybodaeth a sgiliau cynhyrchwyr gwybodaeth, ymchwilwyr polisi a llunwyr polisi, mewn perthynas â chynnwys pobl â phrofiad bywyd
Mae gan Amanda gefndir mewn datblygu ymchwil gymdeithasol i wella, newid neu darfu ar arfer a pholisi. Cyn ymuno â’r Ganolfan, bu Amanda’n gweithio yn The Young Foundation a Cordis Bright lle bu’n datblygu ac yn arwain ystod o brosiectau ymchwil a gwerthuso polisi cymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol yn ymwneud, er enghraifft, â: lles cymunedol, incwm sylfaenol, lleoedd iach, addysg, gwasanaethau plant a ieuenctid, gofal cymdeithasol, a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae ei chleientiaid wedi cynnwys yr Adran Addysg, y Gronfa Loteri Fawr, Refuge, Cymorth i Ferched a Chyngor Dinas Barcelona.
Mae gan Amanda MSc mewn Ymchwil Polisi Cymdeithasol o Ysgol Economeg Llundain, TAR mewn addysg uwchradd (hanes) o Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, a BA (Anrh) mewn Hanes o Brifysgol Caergrawnt.