{"id":21786,"date":"2026-09-24T13:44:36","date_gmt":"2026-09-24T13:44:36","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=report&#038;p=21786"},"modified":"2026-09-24T13:53:38","modified_gmt":"2026-09-24T13:53:38","slug":"dulliau-rhyngwladol-ar-gyfer-dysgu-proffesiynol-i-athrawon-ar-ddechrau-eu-gyrfa","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/dulliau-rhyngwladol-ar-gyfer-dysgu-proffesiynol-i-athrawon-ar-ddechrau-eu-gyrfa\/","title":{"rendered":"Dulliau rhyngwladol ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithlu Addysg Strategol, yn amlinellu camau gweithredu i gryfhau gweithlu addysg Cymru. Gan gydnabod yr amrywiaeth o heriau sy\u2019n wynebu\u2019r sector, gan gynnwys recriwtio a chadw athrawon, pryderon am lesiant athrawon ac anghenion cynyddol gymhleth dysgwyr, mae'r Cynllun Gweithlu Addysg Strategol yn tanlinellu bod dysgu proffesiynol yn hanfodol i ddatblygiad ac i broffesiynoldeb y gweithlu addysgu yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn cefnogi\u2019r ymdrechion i gryfhau\u2019r ddarpariaeth dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa, comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2025 i archwilio dulliau rhyngwladol o ddarparu dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa mewn cyd-destunau tebyg i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I wneud hyn, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arbenigwyr rhyngwladol i gynhyrchu astudiaethau achos ar ddysgu proffesiynol ar gyfer ECTs yn Awstralia, Gwlad y Basg, y Ffindir, Seland Newydd, Norwy a Singapore. Er mwyn archwilio\u2019r dulliau rhyngwladol hyn ymhellach a\u2019u goblygiadau i Gymru, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau weithdy caeedig hefyd gyda\u2019r arbenigwyr rhyngwladol, swyddogion Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni fwriedir i\u2019r astudiaethau achos ddarparu cyfrifon cynhwysfawr o ddysgu proffesiynol ym mhob gwlad neu ranbarth, na chynnig modelau i\u2019w dyblygu\u2019n union yng Nghymru. Yn hytrach, maen nhw\u2019n tynnu sylw at nodweddion a dulliau allweddol o gefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa a allai gyfrannu at y broses o fyfyrio ar gyd-destun Cymru a datblygu polisi ac ymarfer yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er gwaethaf yr amrywiaeth o gyd-destunau ar draws yr astudiaethau achos a\u2019r gweithdai, nodwyd nifer o egwyddorion cyffredin sy\u2019n debygol o gyfrannu at system dysgu proffesiynol effeithiol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>\u2018Continwwm\u2019 o ddysgu proffesiynol:<\/strong> Mae dysgu proffesiynol yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei ystyried yn gontinwwm sy\u2019n dechrau yn ystod Addysg Gychwynnol i Athrawon ac sy\u2019n parhau drwy gydol y cyfnod gyrfa gynnar a\u2019r tu hwnt.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Strwythurau ar lefel system sy\u2019n galluogi hyblygrwydd lleol:<\/strong> Mae nifer o systemau\u2019n cyfuno sgaffaldiau cenedlaethol neu ranbarthol, gan gynnwys fframweithiau, safonau, canllawiau, adnoddau a seilwaith meithrin gallu, gyda rhaglenni sy\u2019n cael eu darparu\u2019n lleol yn cael eu siapio gan ysgolion, awdurdodau lleol a rhwydweithiau proffesiynol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Dysgu seiliedig ar ymarfer:<\/strong> Mae dysgu proffesiynol yn cael ei gysylltu\u2019n fwyaf cyson ag arferion sy\u2019n seiliedig ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys arsylwi, adborth, cyd-gynllunio, myfyrio strwythuredig a chylchoedd ymholi, yn hytrach na dibynnu\u2019n bennaf ar ddigwyddiadau hyfforddi ynysig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Mabwysiadu barn sy\u2019n seiliedig ar asedau am ECTs:<\/strong> Gallai symud o safbwynt sy\u2019n seiliedig ar ddiffyg tuag at farn seiliedig ar asedau am athrawon ar ddechrau eu gyrfa, a chydnabod eu cyfraniadau at gymunedau ysgol, helpu ECTs i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a\u2019u cefnogi\u2019n well.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2\u2019r egwyddorion cyffredin hyn, tynnwyd sylw at nifer o arferion penodol a allai fod yn werth eu hystyried yng Nghymru, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mentoriaid hyfforddedig ac sy\u2019n cael eu talu;<\/li>\n\n\n\n<li>Modelau cydweithredol;<\/li>\n\n\n\n<li>Myfyrio strwythuredig; a<\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu proffesiynol amlieithog.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda\u2019i gilydd, gall yr egwyddorion a\u2019r arferion hyn gynnig cipolwg gwerthfawr ar gryfhau dysgu proffesiynol effeithiol yng Nghymru. Cyflwynir y canfyddiadau hyn yn yr adroddiad rydym wedi\u2019i gyhoeddi a\u2019n briff polisi.&nbsp; Rydym hefyd wedi cyhoeddi dau bapur gwyntyllu arbenigol a ysgrifennwyd gan gynghorwyr arbenigol yng Nghymru ar gyfer y prosiect hwn. Mae\u2019r Athro Alma Harris a Dr Alexandra Morgan yn myfyrio ar yr astudiaethau achos ac ystyried sut gallai Cymru gryfhau ei dulliau ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa.<strong><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Er mwyn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau\u2019r ddarpariaeth dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa (ECTs), rydym wedi cyhoeddi cyfres o astudiaethau achos rhyngwladol ynghyd \u00e2 dau bapur gwyntyllu gan arbenigwyr ar sut gallai Cymru gryfhau ei dulliau ar gyfer dysgu proffesiynol i ECTs.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21808,"template":"","categories":[29,18],"tags":[136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21786","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-tackling-inequalities","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":20349,"lead_author":"","authors":[12416,12482,12170,19653,21802,21795],"image":[],"files":[{"file":["21825"],"publication_type":"Report","title_for_display":"Dulliau rhyngwladol o ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon gyrfa gynnar"},{"file":["21843"],"publication_type":"Policy Brief","title_for_display":"Briff polisi - Dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon sydd ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru"},{"file":["21844"],"publication_type":"Thinkpiece","title_for_display":"Professor Alma Harris - Sut gallai Cymru gryfhau ei hagwedd at ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa?"},{"file":["21845"],"title_for_display":"Dr Alexandra Morgan - Sut gallai Cymru gryfhau ei hagwedd at ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa?"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21786","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21786\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21859,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21786\/revisions\/21859"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21808"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21786"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21786"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21786"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21786"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}