{"id":21751,"date":"2026-09-21T14:20:02","date_gmt":"2026-09-21T14:20:02","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=report&#038;p=21751"},"modified":"2026-09-21T14:21:58","modified_gmt":"2026-09-21T14:21:58","slug":"mesur-effaith-gwasanaethau-integredig-atal-ac-ymyrryd-yn-gynnar-adolygiad-cyflym-o-dystiolaeth-a-dadansoddiad-ansoddol","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/mesur-effaith-gwasanaethau-integredig-atal-ac-ymyrryd-yn-gynnar-adolygiad-cyflym-o-dystiolaeth-a-dadansoddiad-ansoddol\/","title":{"rendered":"Mesur effaith gwasanaethau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r heriau cymhleth sy\u2019n wynebu\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys niferoedd cynyddol o bobl \u00e2 chyflyrau iechyd hirdymor, anghydraddoldebau iechyd, a phwysau ar y gweithlu ac ysbytai, yn amlygu bod angen mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda ffocws cryfach ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, sefydlodd Llywodraeth Cymru 2021-2026 ei System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS), sy\u2019n rhoi fframwaith ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ataliol mwy integredig ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er gwaethaf fframwaith cyfreithiol a pholisi clir i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol ataliol ac integredig yng Nghymru, sydd wedi\u2019i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015, mae mesur effaith dulliau ataliol ac integredig yn dal yn heriol oherwydd diffyg adnoddau a fframweithiau mesur cadarn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, gofynnodd Llywodraeth Cymru 2021-2026 i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddarparu tystiolaeth ynghylch i ba raddau y gall adnoddau a fframweithiau mesur presennol werthuso effaith gwasanaethau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar yn effeithiol, i gefnogi dyheadau polisi ehangach i gryfhau integreiddio, ymyrryd yn gynnar ac atal ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I gyflawni\u2019r ymchwil hwn, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru y Ganolfan Ymchwil Hybu Iechyd i gynnal adolygiad o\u2019r cwestiynau ymchwil canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol start=\"1\" class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Sut mae adnoddau mesur ar gyfer asesu effaith ataliol gwasanaethau ac ymyriadau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu datblygu mewn mannau eraill?<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Sut mae adnoddau a fframweithiau mesur yn cael eu defnyddio yn y DU ac yn rhyngwladol i werthuso effaith atal ac ymyrryd yn gynnar mewn iechyd a gofal cymdeithasol integredig? Pa un o\u2019r rhain sy\u2019n dangos addewid o ran cefnogi dull integredig o fesur effaith atal ac ymyrryd yn gynnar ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Sut gallai adnoddau a dulliau gwerthuso presennol gefnogi\u2019r gwaith o ddatblygu fframweithiau mesur ar y cyd ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar integredig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynhaliwyd adolygiad cyflym o\u2019r dystiolaeth academaidd a chyfres o grwpiau ffocws a chyfweliadau \u00e2 rhanddeiliaid ledled Cymru a\u2019r DU i archwilio\u2019r heriau a\u2019r cyfleoedd ymarferol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 mesur atal mewn systemau cymhleth.&nbsp; Dyma brif ganfyddiadau\u2019r gwaith hwn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid oes un ffordd o fesur effaith y gellir ei defnyddio\u2019n gyffredinol. Mae diffiniadau o \u2018atal\u2019 ac \u2018integreiddio\u2019 yn amrywio\u2019n sylweddol ar draws gwasanaethau a sectorau. Rhaid teilwra dulliau mesur yn ofalus i adlewyrchu\u2019r gwahaniaethau hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae hi\u2019n bwysig nodi canlyniadau ataliol hirdymor, a\u2019r mecanweithiau a\u2019r canlyniadau canolraddol sy\u2019n arwain at yr effeithiau hyn. O ystyried cymhlethdod atal, efallai y bydd angen cofnodi arwyddion cynnar o lwyddiant drwy fesurau interim, ar lefelau sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar lefel system.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylai llais y defnyddiwr gwasanaeth fod yn ganolog i\u2019r mesur. Ystyriwyd bod canlyniadau sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys llesiant, ansawdd bywyd, a phrofiad o ofal, yn elfennau hanfodol o unrhyw fframwaith.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae angen ystyried yn ofalus yr heriau ymarferol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gweithredu fframweithiau mesur yn y maes hwn. Mae\u2019r rhain yn cynnwys y baich casglu data ar staff a gwasanaethau, cyfyngiadau ar seilwaith rhannu data, a gwahaniaethau o ran capasiti ac adnoddau ar draws sefydliadau, yn enwedig yn y trydydd sector. Roedd yn llawer gwell gan ymarferwyr ddefnyddio nifer fach o fesurau, yn hytrach na fframweithiau mawr, cymhleth sy\u2019n gallu bod yn anodd eu rhoi ar waith yn gyson.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Casgliad y gwaith hwn yw y dylid cynllunio fframweithiau mesur gan feddwl am hyblygrwydd. Mae\u2019n annhebygol y bydd dull \u2018un ateb i bawb\u2019 yn effeithiol, ac mae angen caniat\u00e1u ar gyfer addasu ar lefel gwasanaeth a system leol, o fewn fframwaith cenedlaethol y cytunir arno. Bydd cefnogi capasiti i werthuso, gwella seilwaith data, a sicrhau cysondeb rhwng amcanion mesur a pholisi hefyd yn hanfodol i weithredu llwyddiannus.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r ymchwil hwn yn archwilio sut mae mesur effaith gwasanaethau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar, a\u2019r hyn sydd ei angen i ddatblygu fframwaith mesur effeithiol ar y cyd ar gyfer atal integredig mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21766,"template":"","categories":[150],"tags":[135,137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21751","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":20219,"lead_author":12416,"authors":[12316,12254],"image":[],"files":[{"file":["21776"],"publication_type":"Report","title_for_display":"Mesur effaith gwasanaethau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar - adolygiad cyflym o dystiolaeth a dadansoddiad ansoddol"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21751","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21751\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21790,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21751\/revisions\/21790"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21766"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21751"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21751"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21751"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21751"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}