{"id":21646,"date":"2026-10-09T11:27:26","date_gmt":"2026-10-09T11:27:26","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=report&#038;p=21646"},"modified":"2026-10-09T11:27:26","modified_gmt":"2026-10-09T11:27:26","slug":"ymyriadau-polisi-i-gryfhau-cydlyniant-cymdeithasol","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/ymyriadau-polisi-i-gryfhau-cydlyniant-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Ymyriadau\u00a0polisi\u00a0i\u00a0gryfhau\u00a0cydlyniant\u00a0cymdeithasol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn ymateb i bryderon cynyddol am bolareiddio cymdeithasol a rhaniadau cymunedol yng Nghymru a ledled y DU, lansiodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2024.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae adroddiad terfynol y Pwyllgor, sef <em>'Cyd-dynnu, nid tynnu'n groes:&nbsp; rhaid i Gymru weithredu'<\/em> , yn nodi bod angen gweithredu ar frys, ac argymhellwyd sefydlu Gr\u0175p Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol (EGSC) wedi\u2019i gadeirio\u2019n annibynnol i ddatblygu argymhellion tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I gefnogi\u2019r gwaith hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru 2021-2026 Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i gyfuno tystiolaeth ar ymyriadau sy\u2019n hyrwyddo ac yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol a nodi camau polisi posibl ar gyfer Cymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Aeth ein hymchwil i\u2019r afael \u00e2 dau gwestiwn:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa ymyriadau polisi ac ymarfer sy'n effeithiol o ran hyrwyddo a chryfhau cydlyniant cymdeithasol?&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa gamau polisi ar gyfer Cymru a nodir yn y dystiolaeth ar ymyriadau cydlyniant cymdeithasol?&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan ddefnyddio llenyddiaeth academaidd a gyflwynwyd i ymchwiliad y Pwyllgor, tystiolaeth a ddarparwyd drwy alwad am gyflwyniadau, a chyfuno\u2019r dystiolaeth sy\u2019n bodoli eisoes, archwiliodd yr adolygiad yr hyn sy\u2019n hysbys am ymyriadau cydlyniant cymdeithasol a\u2019r goblygiadau i bolisi yng Nghymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi cyhoeddi tri phrif allbwn:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Adroddiad llawn, sy\u2019n cyfuno\u2019r dystiolaeth ar ymyriadau i gryfhau cydlyniant cymdeithasol ac yn nodi\u2019r goblygiadau i Gymru.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Briff polisi yn crynhoi\u2019r canfyddiadau allweddol.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyfres o dri darn gwyntyllu syniadau yn seiliedig ar gyflwyniadau a thrafodaethau o\u2019n gweminar <em>Tystiolaeth a gwybodaeth i gryfhau cydlyniant cymunedol<\/em> a gafodd ei gynnal ym mis Mawrth 2026.\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r dystiolaeth yn dangos y gall amrywiaeth eang o ymyriadau gyfrannu at gydlyniant cymdeithasol cryfach. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau yn y ffordd y caiff canlyniadau eu mesur, ochr yn ochr \u00e2\u2019r amrywiaeth o fathau o ymyriadau, yn ei gwneud yn anodd cymharu canfyddiadau ar draws astudiaethau neu ddod i gasgliadau pendant ynghylch pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol. Mae\u2019r dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall sut mae ymyriadau\u2019n cael eu cynllunio a\u2019u darparu fod yr un mor bwysig \u00e2\u2019r ymyriadau eu hunain.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae\u2019r dystiolaeth yn nodi nifer o nodweddion sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gweithredu effeithiol ac yn tynnu sylw at nifer o flaenoriaethau i lunwyr polis\u00efau Cymru eu hystyried. Mae\u2019r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar ymyriadau mewn ysgolion, cefnogi cydgynhyrchu mentrau cydlyniant, cryfhau cysylltiadau rhwng gwirfoddoli a chydlyniant, gwella buddsoddiad mewn mannau cymunedol a buddsoddi mewn gweithredu cydlynol ar lefel leol.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ein hadroddiad newydd yn edrych ar ymyriadau polisi ac ymarfer i hyrwyddo a chryfhau cydlyniant cymdeithasol yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd.<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":21820,"template":"","categories":[150],"tags":[134,137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21646","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":20813,"lead_author":12492,"authors":[12416,12254,19645],"image":[],"files":[{"file":["21681"],"publication_type":"Policy Brief","title_for_display":"Ymyriadau polisi i gryfhau cydlyniant briff polisi"},{"file":["21686"],"publication_type":"Report","title_for_display":"Adolygiad tystiolaeth cydlyniant cymdeithasol"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21646","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21646\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21674,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21646\/revisions\/21674"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21820"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21646"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21646"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21646"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21646"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}