{"id":21074,"date":"2026-05-18T14:04:35","date_gmt":"2026-05-18T14:04:35","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=report&#038;p=21074"},"modified":"2026-06-03T15:24:48","modified_gmt":"2026-06-03T15:24:48","slug":"lleisiau-abertawe-herio-stigma-tlodi-gydan-gilydd","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/lleisiau-abertawe-herio-stigma-tlodi-gydan-gilydd\/","title":{"rendered":"Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda\u2019n gilydd"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe a th\u00eem o ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe i ddod \u00e2 llunwyr polis\u00efau lleol, ymarferwyr ac arbenigwyr profiad bywyd at ei gilydd i gyd-greu camau gweithredu sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae stigma tlodi yn gwaethygu effeithiau caledi ariannol, ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl ddianc rhag tlodi. Mae <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/mynd-ir-afael-a-stigma-ynghylch-tlodi-briff-polisi\/\">ymchwil gynharach<\/a> gennym yn dangos bod stigma tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ynysigrwydd cymdeithasol, a llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill, ac roedd <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/mynd-ir-afael-a-stigma-ynghylch-tlodi-briff-polisi\/\">arolwg<\/a> a gomisiynwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2024 wedi datgelu maint y broblem yng Nghymru, gydag 1 o bob 3 oedolyn ar incwm isel wedi profi stigma tlodi \u2018bob amser\u2019, \u2018yn aml\u2019 neu \u2018weithiau\u2019 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er hyn, mae diffyg tystiolaeth am \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi a sut gellir defnyddio\u2019r dystiolaeth honno drwy bolisi ac ymarfer mewn ardal benodol. Felly, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Abertawe i gyd-ddylunio camau gweithredu polisi ac ymarfer i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nod y prosiect oedd helpu partneriaid yn y sector cyhoeddus yn Abertawe i wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Deall a dysgu o brofiadau go iawn o stigma tlodi yn Abertawe<\/strong> <strong>\u2013<\/strong>&nbsp; o ble mae\u2019n dod, sut mae\u2019n ymddangos ym mywydau bob dydd pobl a\u2019u profiadau o wasanaethau cyhoeddus, a sut mae\u2019n effeithio ar bobl.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Deall r\u00f4l gwasanaethau cyhoeddus lleol<\/strong> <strong>\u2013<\/strong> o ran cyfrannu at stigma tlodi a\u2019i leihau, gan adeiladu hefyd ar unrhyw ymdrechion presennol sydd eisoes yn gweithio\u2019n dda i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill<\/strong> <strong>\u2013<\/strong> i ystyried beth y mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddweud am fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi a sut gellir cymhwyso\u2019r gwersi hyn i bolisi ac ymarfer yn Abertawe.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi<\/strong> <strong>\u2013<\/strong> i arwain Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe ac ymdrechion ehangach i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Rydym wedi cyhoeddi dau allbwn allweddol o\u2019r ymchwil:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Adroddiad dan arweiniad y gymuned - Deall a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe<\/strong> - a ddatblygwyd gan ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe i gyfuno canfyddiadau ymchwil ansoddol yn Abertawe er mwyn deall yn well sut mae stigma tlodi yn effeithio ar fywydau pobl a pha gamau y gellir eu cymryd i fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Adroddiad polisi ac ymarfer \u2013 Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda\u2019n gilydd<\/strong> - sy\u2019n crynhoi gwybodaeth allweddol er mwyn deall, atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi ar lefel leol yn Abertawe a\u2019r tu hwnt.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Un rhan allweddol o\u2019r broses oedd dod \u00e2 gwybodaeth am bolisi, ymarferwyr a chymunedau at ei gilydd gyda <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/adolygiad-cyflym-o-dystiolaeth-am-stigma-tlodi-tudalen-gyhoeddiadau\/\">thystiolaeth academaidd ryngwladol<\/a> ar \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi. Arweiniodd hyn at gyd-greu wyth cam gweithredu allweddol ar dair thema y gellir eu cymryd i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cael gwared ar y stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chael gafael ar gymorth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwella dulliau rhannu data ar draws adrannau er mwyn symleiddio prosesau mynediad a chymorth<\/li>\n\n\n\n<li>Cael gwared ar asesiadau ailadroddus drwy integreiddio gwasanaethau a rhannu gwybodaeth<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Darparu gwasanaethau gydag urddas a pharch<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sefydlu mynediad at dri hyfforddiant cyffredinol ar stigma tlodi i weithwyr proffesiynol, wedi\u2019u hanelu\u2019n benodol ar fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod gwasanaethau\u2019n gyfleus i bobl sydd angen mynediad atynt, er enghraifft drwy sicrhau bod mannau go iawn neu wasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu darparu er mwyn osgoi allg\u00e1u digidol<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyried ffyrdd o gefnogi\u2019r grwpiau sydd fwyaf tebygol o brofi stigma tlodi yn well, fel ceiswyr lloches a ffoaduriaid, sy\u2019n aml yn wynebu diweithdra<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br><strong>Newid iaith, diwylliant a systemau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynyddu cyfranogiad pobl sydd \u00e2 phrofiad bywyd wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau iaith hygyrch a di-stigma wrth gyfathrebu megis mewn llythyrau a ffurflenni swyddogol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Bydd y camau hyn yn llywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe a\u2019r cynllun gweithredu sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r strategaeth. Mae\u2019r holl gamau gweithredu a nodwyd yn berthnasol i wahanol raddau i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a gweddill y DU sydd \u00e2 diddordeb mewn atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe a th\u00eem o ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe i ddod \u00e2 llunwyr polis\u00efau lleol, ymarferwyr ac arbenigwyr profiad bywyd at ei gilydd i gyd-greu camau gweithredu sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe. Mae stigma tlodi yn gwaethygu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":21073,"template":"","categories":[18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21074","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":19890,"lead_author":12170,"authors":[12316,12254,12482],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize.jpg","filesize":271107,"sizes":{"medium":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-744x595.jpg","width":744,"height":595,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66018,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-744x595.jpg"},"large":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-1200x960.jpg","width":1200,"height":960,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":131744,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-1200x960.jpg"},"thumbnail":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48328,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-768x614.jpg","width":768,"height":614,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":68736,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-768x614.jpg"},"1536x1536":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-1536x1229.jpg","width":1536,"height":1229,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":191471,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-1536x1229.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-325x260.jpg","width":325,"height":260,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":20123,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-325x260.jpg"},"banner":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-1920x640.jpg","width":1920,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":124408,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-1920x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize-800x800.jpg","width":800,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":80101,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-800x800.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"1","keywords":[]},"ID":"21069","name":"FEel-the-love-phoenix-shop-resize.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FEel-the-love-phoenix-shop-resize.jpg","title":"Feel the love Phoenix Centre shop","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":["21089"],"publication_type":"Report","title_for_display":"Deall a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi: Adroddiad cymunedol"},{"file":["21090"],"publication_type":"Policy Brief","title_for_display":"Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda\u2019n gilydd. Goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21074","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21074\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21186,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/21074\/revisions\/21186"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21073"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21074"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21074"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21074"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21074"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}