{"id":19073,"date":"2025-07-30T10:55:28","date_gmt":"2025-07-30T10:55:28","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/welsh-government-spending-review\/"},"modified":"2025-07-30T11:00:16","modified_gmt":"2025-07-30T11:00:16","slug":"welsh-government-spending-review","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/welsh-government-spending-review\/","title":{"rendered":"Adolygiad o wariant Llywodraeth Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ymgodymu \u00e2 chymysgedd cymhleth o heriau cyllidol, o ymateb i ddigwyddiadau eithriadol megis pandemig COVID-19, i bwysau cynyddol ar wariant cyhoeddus o ganlyniad i ffactorau mwy hirdymor megis poblogaeth yn heneiddio a\u2019r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ffocws newydd mewn polisi rhyngwladol ar gynaliadwyedd cyllidol, wrth i wledydd ddod allan o gyfnod o ergydion economaidd, refeniw a gwariant sylweddol ac annisgwyl, a cheisio dychwelyd i lwybr cyllidol hirdymor, sefydlog a phwrpasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel llawer o gymheiriaid rhyngwladol, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei bwriad i gryfhau ei dull o ymgorffori safbwynt tymor canolig a hirdymor wrth wneud penderfyniadau cyllidol a chyllidebol. Ym mis Mehefin 2024, <a href=\"https:\/\/record.senedd.wales\/Plenary\/13947#A88742\">cyhoeddwyd<\/a> y byddai Adolygiad Gwariant nesaf Cymru yn ymestyn \u2018y tu hwnt i flaenoriaethau tymor byr i ganolbwyntio ar yr heriau a\u2019r cyfleoedd allweddol yn y tymor canolig i\u2019r tymor hirach\u2019, gan helpu i sefydlu dull llywodraeth gyfan o nodi blaenoriaethau a chyflawni canlyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>I gefnogi\u2019r rhaglen waith hon, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfosod tystiolaeth ar arferion gorau rhyngwladol ar gyfer mabwysiadu safbwynt tymor canolig i hirdymor wrth lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol. Yn benodol, aeth ein hymchwil i'r afael \u00e2'r cwestiynau ymchwil canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Sut mae llywodraethau rhyngwladol yn mabwysiadu prosesau a fframweithiau rheoli arian cyhoeddus i alluogi dull tymor canolig i hirdymor o lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa brosesau a fframweithiau rheoli arian cyhoeddus sydd wedi bod yn effeithiol wrth helpu llywodraethau i:<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>ragweld a chynllunio ar gyfer pwysau gwariant cyhoeddus dros gyfnod o amser hirach; a<\/li>\n\n\n\n<li>llywio penderfyniadau cyllidol a chyllidebol tymor agosach yn well i gyflawni canlyniadau polisi tymor canolig a hirdymor?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa wersi allweddol ac arferion gorau y gellir eu nodi o\u2019r dulliau hyn, gan ganolbwyntio\u2019n benodol ar:<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>astudiaethau achos o sut mae llywodraethau wedi mynd i'r afael \u00e2 heriau gwariant cyhoeddus sylweddol drwy gynllunio tymor hirach; ac<\/li>\n\n\n\n<li>enghreifftiau rhyngwladol y gellir eu cymharu \u00e2 Chymru o ran ysgogiadau cyllidol sydd ar gael ar hyn o bryd neu o bosibl ar gael i Lywodraeth Cymru?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I ymateb i\u2019r cwestiynau hyn, aethom ati i gynnal synthesis o ymchwil ar brosesau rheoli arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd yn rhyngwladol i gefnogi dulliau tymor canolig i hirdymor o lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol. Mae ein hadroddiad yn amlinellu gwersi allweddol ac egwyddorion arfer gorau, gan gynnwys astudiaethau achos cyhoeddedig o amrywiaeth o wledydd gan gynnwys yr Iseldiroedd, Awstralia, Ffrainc, Gwlad Belg, Denmarc, a Seland Newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae offer ac arferion rheoli arian cyhoeddus a ddefnyddir yn fyd-eang i helpu llywodraethau i fabwysiadu dulliau mwy hirdymor o lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>dadansoddi tueddiadau a phwysau gwariant hirdymor;<\/li>\n\n\n\n<li>cryfhau'r cyfnod strategol ym mhroses y gyllideb;<\/li>\n\n\n\n<li>adolygiadau gwariant;<\/li>\n\n\n\n<li>fframweithiau cyllideb tymor canolig (MTBFs); a<\/li>\n\n\n\n<li>mentrau cyllideb strategol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gall rhoi un, neu nifer, o\u2019r arfau hyn ar waith gefnogi llywodraethau i ragweld a pharatoi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, alinio adnoddau ariannol \u00e2 nodau polisi hirdymor a gwella\u2019r broses o ddyrannu adnoddau, cydlynu polis\u00efau a thryloywder wrth wneud penderfyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid ystyried nifer o ffactorau allweddol er mwyn rhoi un neu fwy o\u2019r arfau hyn ar waith yn effeithiol. Rhaid meithrin gallu digonol i fabwysiadu offer a dulliau rheoli arian cyhoeddus newydd, ac mae\u2019r taflenni\u2019n pwysleisio hynny. Mae sicrhau ymrwymiad gwleidyddol i ddulliau gweithredu tymor hwy (gan gynnwys ymrwymiad trawsbleidiol), fframweithiau sefydliadol, cyfreithiol a gweinyddol cryf, tryloywder ac ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid hefyd yn cael eu hamlygu fel ffactor pwysig ar gyfer llwyddiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dau bapur briffio manwl ar adolygiadau o wariant a fframweithiau cyllideb tymor canolig yn cyd-fynd \u00e2\u2019r adroddiad hwn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ymgodymu \u00e2 chymysgedd cymhleth o heriau cyllidol, o ymateb i ddigwyddiadau eithriadol megis pandemig COVID-19, i bwysau cynyddol ar wariant cyhoeddus o ganlyniad i ffactorau mwy hirdymor megis poblogaeth yn heneiddio a\u2019r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ffocws newydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":19066,"template":"","categories":[],"tags":[152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19073","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"project":"","lead_author":12484,"authors":[12254,12316],"image":[],"files":[{"file":["19075"],"publication_type":"Policy Brief","title_for_display":"Adolygiadau o wariant "},{"file":["19077"],"publication_type":"Policy Brief","title_for_display":"Fframweithiau cyllidebol tymor canolig. Trsolwg ac enghreifftiau rhyngwladol"},{"publication_type":"Report","title_for_display":"Dulliau hirdymor o lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol yng Nghymru"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/19073","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/19073\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19066"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19073"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19073"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19073"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19073"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}