{"id":14582,"date":"2024-03-07T12:40:24","date_gmt":"2024-03-07T12:40:24","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/tystiolaeth-o-brofiad-uniongyrchol-wrth-lunio-polisiau-anabledd\/"},"modified":"2025-04-11T13:32:13","modified_gmt":"2025-04-11T13:32:13","slug":"tystiolaeth-o-brofiad-uniongyrchol-wrth-lunio-polisiau-anabledd","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/tystiolaeth-o-brofiad-uniongyrchol-wrth-lunio-polisiau-anabledd\/","title":{"rendered":"Tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polis\u00efau anabledd"},"content":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnwys tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polis\u00efau lle bynnag y mae hynny\u2019n bosibl. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn wrth lunio polis\u00efau anabledd yn dilyn cyhoeddi\u2019r <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/drws-ar-glo-datgloi-bywydau-hawliau-pobl-anabl-yng-nghymru-ar-ol-covid-19\">Adroddiad Drws ar Glo<\/a> yn 2021.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad hwn \u2013 a gyhoeddwyd mewn iaith syml ac mewn fformat hawdd ei ddarllen \u2013 yn ystyried r\u00f4l tystiolaeth o brofiad go iawn a chyd-gynhyrchu wrth lunio polis\u00efau anabledd yng Nghymru yn ymarferol, ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cwestiynau a ganlyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Pa r\u00f4l sydd i dystiolaeth sy\u2019n seiliedig ar brofiad uniongyrchol wrth lunio polis\u00efau sy\u2019n gysylltiedig ag anabledd, fel y mae llunwyr polis\u00efau, sefydliadau brocera gwybodaeth, a grwpiau ar lawr gwlad yn ei gweld?<\/li>\n<li>Ym mha ffordd mae tystiolaeth o brofiadau uniongyrchol yn cael ei chysyniadu a\u2019i defnyddio?<\/li>\n<li>Pa mor effeithiol yw gwahanol fathau o dystiolaeth (ymchwil, proffesiynol, dealledig a phrofiad uniongyrchol) wedi eu hintegreiddio mewn modd cydweithredol a chydgynhyrchiol?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r canfyddiadau\u2019n seiliedig ar ddadansoddi dogfennau allweddol a saith cyfweliad gydag unigolion sy\u2019n cynrychioli sefydliadau anabledd ar lawr gwlad a oedd wedi cyfrannu at lunio polis\u00efau anabledd yng Nghymru, sefydliadau brocera gwybodaeth a oedd wedi darparu tystiolaeth i lywio\u2019r gwaith o lunio polis\u00efau anabledd yng Nghymru, a swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r broses o lunio polis\u00efau anabledd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Daw'r adroddiad i'r casgliad bod gan bobl ddealltwriaeth wahanol o'r hyn mae profiad byw a chydgynhyrchu yn ei olygu wrth lunio polis\u00efau anabledd. I rai, gall profiad bywyd gynnwys gwybodaeth a phrofiad pobl anabl, yn ogystal \u00e2\u2019u rhieni neu ofalwyr a sefydliadau proffesiynol a darparwyr gwasanaethau sy\u2019n cynrychioli pobl anabl. Mewn rhai dogfennau a chyfweliadau, ystyriwyd bod tystiolaeth o brofiad go iawn yn gyfystyr ag ymchwil ansoddol dda. Gall hyn arwain at wahaniaethau barn ynghylch yr hyn sy\u2019n cyfrif fel tystiolaeth ac arbenigedd profiad bywyd a phwy ddylai fod yn ymwneud \u00e2 chyd-gynhyrchu polisi; gydag ymchwil a gwybodaeth broffesiynol yn aml yn cael eu disodli neu eu dyrchafu\u2019n uwch na gwybodaeth a phrofiad pobl anabl.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad hefyd yn canfod rhwystrau i gynnwys tystiolaeth profiad bywyd wrth lunio polis\u00efau oherwydd y mecanweithiau a ddefnyddir i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigwyr, a diffyg ymddiriedaeth mewn prosesau llunio polis\u00efau ymysg pobl anabl. Yn olaf, mae\u2019r adroddiad yn canfod gwahaniaethau barn ynghylch beth mae cynnwys profiad bywyd a chyd-gynhyrchu polisi yn ei olygu a beth ddylai geisio ei gyflawni. Codwyd materion yn ymwneud \u00e2\u2019r amser a\u2019r adnoddau sydd eu hangen i gyd-gynhyrchu polisi, tra bod eraill yn pwysleisio\u2019r potensial i arbed amser ac arian drwy osgoi methiannau polisi a gweithredu.<\/p>\n<p>Cynhyrchwyd yr ymchwil a'r adroddiadau gan <a href=\"https:\/\/walesdtp.ac.uk\/profile\/williams-kathryn\/\">Kat Williams<\/a> yn ystod interniaeth PhD 3 mis gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae Kat yn fyfyriwr PhD a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal \u00e2 chyfarwyddwr anweithredol sefydliad pobl anabl ac mae\u2019n unigolyn sy'n agored am fod yn niwrowahanol. Daw Kat \u00e2\u2019r adroddiad i ben gyda chyfres o argymhellion ar gyfer llunwyr polis\u00efau a broceriaid gwybodaeth i wella r\u00f4l profiad byw a chydgynhyrchu wrth lunio polis\u00efau anabledd yng Nghymru. Gallwch ddarllen <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/profiad-kat-williams-intern-phd-yn-cpcc\/\">blog Kat<\/a> am ei phrofiad fel Intern PhD yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yma.<\/p>\n<p><em>Ar hyn o bryd mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn croesawu Cymrawd Arloesi Polisi ESRC, Dr Rounak Nayak, i wella ein sgiliau, ein gallu a'n gwybodaeth mewn perthynas \u00e2 chynnwys arbenigwyr drwy brofiad yn ein gwaith. Mae'r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/archwilio-a-gwella-rol-profiad-ymarferol\/\">prosiect hwn<\/a> yn cynnwys archwilio arfer cyfredol, defnyddio mewnwelediadau o ymchwil ehangach ac ymarfer polisi, arbrofi drwy ymchwil weithredol, a chyfnerthu a rhannu gwersi a ddysgwyd. Bydd y prosiect yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2025.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnwys tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polis\u00efau lle bynnag y mae hynny\u2019n bosibl. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn wrth lunio polis\u00efau anabledd yn dilyn cyhoeddi\u2019r Adroddiad Drws ar Glo yn 2021. Mae\u2019r adroddiad hwn \u2013 a gyhoeddwyd mewn iaith syml ac mewn fformat hawdd ei ddarllen \u2013 yn ystyried [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"template":"","categories":[18],"tags":[134,143],"research-and-impact":[131],"class_list":["post-14582","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-profiad-bywyd","research-and-impact-interniaid-phd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-scaled.jpg","filesize":348773,"sizes":{"medium":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-744x263.jpg","width":744,"height":263,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49624,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-744x263.jpg"},"large":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-1200x424.jpg","width":1200,"height":424,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":105105,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-1200x424.jpg"},"thumbnail":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-768x272.jpg","width":768,"height":272,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":52199,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-768x272.jpg"},"1536x1536":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-1536x543.jpg","width":1536,"height":543,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":153937,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-1536x543.jpg"},"2048x2048":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-2048x724.jpg","width":2048,"height":724,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":243570,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-2048x724.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-1920x1061.jpg","width":1920,"height":1061,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":325833,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-1920x1061.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1.jpg","ID":"14583","name":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1-scaled.jpg","title":"WCPP-team-Senedd-celebration-resize-long-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":[14584],"publication_type":"Report","title_for_display":"ADRODDIAD: Tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polis\u00efau anabledd"},{"file":[14585],"title_for_display":"HAWDD EI DARLLEN: Tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polis\u00efau anabledd"}],"disable_related_content":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14582","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14582\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14582"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14582"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14582"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14582"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}