{"id":14518,"date":"2023-08-12T09:52:42","date_gmt":"2023-08-12T09:52:42","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/gwaith-aml-asiantaeth-yng-nghwm-taf-morgannwg\/"},"modified":"2025-04-11T13:32:10","modified_gmt":"2025-04-11T13:32:10","slug":"gwaith-aml-asiantaeth-yng-nghwm-taf-morgannwg","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/gwaith-aml-asiantaeth-yng-nghwm-taf-morgannwg\/","title":{"rendered":"Gwaith aml-asiantaeth yng Nghwm Taf Morgannwg"},"content":{"rendered":"<p>Cydnabuwyd ers tro fod yn rhaid i\u2019r gwasanaethau sy\u2019n cynnig cymorth gael eu darparu mewn ffordd gydlynol a \u2018chyd-gysylltiedig\u2019 ar gyfer y plant mwyaf agored i niwed, y rhai sydd mewn perygl o fynd i ofal.<\/p>\n<p>Mae hyn oherwydd problemau ac anghenion sy\u2019n gorgyffwrdd; y rhai sy\u2019n cael eu crybwyll amlaf yw\u2019r \u2018triawd sbarduno\u2019 sef camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, a salwch meddwl. Ond hefyd oherwydd bod y ffactorau risg sylfaenol \u2013 tlodi, amddifadedd ac anghydraddoldebau ehangach \u2013 yn torri ar draws seilos neu ffiniau polisi a chyflawni.<\/p>\n<p>Felly, er mwyn ymateb yn ddigonol i anghenion y plant hyn a\u2019u teuluoedd mae angen gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o asiantaethau.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae gwella gwaith aml-asiantaeth er mwyn cefnogi plant a theuluoedd wedi bod yn flaenoriaeth mewn polisi cenedlaethol o leiaf ers 2010 os nad cyn hynny. Ac eto, mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw\u2019r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn cyflawni\u2019r uchelgais polisi.<\/p>\n<p>Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau allweddol yn ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM) i\u2019w helpu i ganfod sut y gallent wella eu gwaith aml-asiantaeth er mwyn cefnogi plant a theuluoedd.<\/p>\n<p>Ein nod oedd deall y gofynion statudol, \u201caeddfedrwydd\u201d gwaith aml-asiantaeth yn yr ardal, a\u2019r camau y gellid eu cymryd i gefnogi gwaith aml-asiantaeth. Fe wnaethom gynnal adolygiad desg, siarad ag 11 o bobl a oedd yn ymwneud \u00e2 chydlynu a darparu gwasanaethau ar draws CTM, a chynnal dau weithdy. Mynychwyd y rhain gan 34 o gyfranogwyr a oedd yn gweithio ar lefel ranbarthol ar draws gwasanaethau cymdeithasol, diogelu, diogelwch cymunedol, yr heddlu, y trydydd sector, y bwrdd iechyd, cydgomisiynu, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, yr heddlu a\u2019r tri awdurdod lleol.<\/p>\n<p>Beth wnaethon ni ei ganfod?\u00a0 Rhannodd pobl eu hawydd i ddarparu\u2019r dewis gorau i gymunedau.\u00a0 Fe wnaethant ddweud wrthym hefyd eu bod yn gweithredu mewn tirwedd ddeddfwriaethol a gwleidyddol heriol sy\u2019n cynhyrchu \u201cgormod o bartneriaethau\u201d a \u201cgormod o gyfarfodydd\u201d.\u00a0 Mae\u2019r ymdrech i gydlynu gweithgareddau sy\u2019n \u2018cyd-gysylltu\u2019 yn \u2018ychwanegol\u2019 a\u2019r tu allan i fusnes craidd.\u00a0 Mae arweinyddiaeth, gweledigaeth ac eglurder ar y cyd ynghylch y priod rolau a\u2019r rhyngweithio rhwng Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff strategol eraill yn hanfodol ar gyfer y gweithlu llawn cymhelliant hwn.<\/p>\n<p>Mae Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Dan Bristow, wedi cyhoeddi blog ar sut mae polisi a deddfwriaeth wedi creu trefniadau partneriaeth cymhleth sy\u2019n rhwystr rhag rhoi cymorth effeithiol i blant a theuluoedd.<\/p>\n<p>Meysydd allweddol eraill o ddiddordeb i\u2019n partneriaid yng Nghwm Taf Morgannwg oedd amser ac adnoddau i \u2018gyflawni\u2019 perchnogaeth gymunedol yn dda, a chreu cyd-ddealltwriaeth o angen ar draws yr Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill. Mae enghreifftiau o waith i ddatblygu darlun ar y cyd, er enghraifft drwy\u2019r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, ond mae data a gwybodaeth yn aml yn cael eu cyfyngu mewn parthau polisi neu strwythurau rhanbarthol.<\/p>\n<p>Rydym ni nawr yn ystyried a yw\u2019r canfyddiadau hyn yn taro tant ledled rhanbarthau eraill yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cydnabuwyd ers tro fod yn rhaid i\u2019r gwasanaethau sy\u2019n cynnig cymorth gael eu darparu mewn ffordd gydlynol a \u2018chyd-gysylltiedig\u2019 ar gyfer y plant mwyaf agored i niwed, y rhai sydd mewn perygl o fynd i ofal. Mae hyn oherwydd problemau ac anghenion sy\u2019n gorgyffwrdd; y rhai sy\u2019n cael eu crybwyll amlaf yw\u2019r \u2018triawd sbarduno\u2019 sef [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10303,"template":"","categories":[150],"tags":[141,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14518","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-684059604-3.jpg","filesize":489969,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-684059604-3-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60523,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-684059604-3-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":123173,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-684059604-3-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53914,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-684059604-3-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":63169,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-684059604-3-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":178605,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-684059604-3-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":280990,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-684059604-3-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":225821,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14515","name":"iStock-684059604-3.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3.jpg","title":"iStock-684059604-3.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-684059604-3-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[{"file":[14520],"publication_type":"Report"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14518","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14518\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10303"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14518"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14518"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14518"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14518"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}