{"id":14510,"date":"2023-08-09T11:07:19","date_gmt":"2023-08-09T11:07:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/adolygiad-o-dystiolaeth-anghydraddoldebau-unigrwydd\/"},"modified":"2025-04-11T13:32:09","modified_gmt":"2025-04-11T13:32:09","slug":"adolygiad-o-dystiolaeth-anghydraddoldebau-unigrwydd","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/adolygiad-o-dystiolaeth-anghydraddoldebau-unigrwydd\/","title":{"rendered":"Adolygiad o dystiolaeth anghydraddoldebau unigrwydd"},"content":{"rendered":"<p>Mae tystiolaeth gwaith ymchwil yn dangos yn llethol bod unigrwydd yn effeithio ar rai grwpiau mewn cymdeithas yn fwy nag eraill a bod hyn yn arbennig o wir i\u2019r rhai sy\u2019n wynebu mathau lluosog o amddifadedd.<\/p>\n<p>Mae hyn yn awgrymu y gallai unigrwydd fod wedi\u2019i ddosbarthu\u2019n anghyfartal mewn cymdeithas mewn ffyrdd sy\u2019n adlewyrchu ac yn rhyngweithio ag anghydraddoldebau strwythurol ehangach. Ac eto, mae\u2019r prif ddulliau o ymdrin ag unigrwydd mewn ymchwil, polisi ac ymarfer wedi tueddu i ddefnyddio dull unigolyddol \u2013 ar draul mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ffactorau cymdeithasol a strwythurol ehangach a allai fod yn achosi anghydraddoldebau unigrwydd.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i hyn, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 rhai o ysgolheigion blaenllaw y DU ar unigrwydd mewn adolygiad mawr o ymchwil gyhoeddedig ar natur ac achosion anghydraddoldebau unigrwydd. Mae\u2019r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o\u2019r DU a gweddill y byd ynghylch pa grwpiau mewn cymdeithas sy\u2019n profi unigrwydd anghymesur, gan gynnwys pobl wedi\u2019u hymyleiddio ar sail hil, mudwyr, pobl LHDT+, pobl anabl, pobl \u00e2 chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol gwael, gofalwyr, pobl ddi-waith a phobl sy\u2019n byw mewn tlodi. Am y tro cyntaf, mae\u2019n crynhoi tystiolaeth ryngwladol ar y ffactorau cymdeithasol a strwythurol ehangach a allai fod yn cyfrannu at anghydraddoldebau unigrwydd \u2013 sy\u2019n helpu i egluro pam yr effeithir yn anghymesur ar grwpiau ymylol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adolygiad yn dangos y gellir esbonio anghydraddoldebau unigrwydd yn rhannol gan amlygiad uwch grwpiau ymylol i brofiadau o allgau rhyngbersonol, sy\u2019n cyfrannu\u2019n uniongyrchol ar unigrwydd ac yn anuniongyrchol hefyd, drwy effeithio ar lesiant unigol a pherthnasoedd mewn ffyrdd sy\u2019n arwain at amlygrwydd pellach i unigrwydd. Yn ogystal, mae tystiolaeth y gall gwahaniaeth \u00e2 chymdeithas ddominyddol gyfrannu hefyd at unigrwydd yn absenoldeb allg\u00e1u uniongyrchol, er enghraifft drwy wrthdaro mewn normau cymdeithasol sy\u2019n arwain at heriau mewn rhyngweithio cymdeithasol.<\/p>\n<p>Wrth edrych y tu hwnt i\u2019r lefel ryngbersonol, mae\u2019r adolygiad hefyd yn nodi chwe ffactor strwythurol sy\u2019n debygol o gynyddu anghydraddoldebau unigrwydd, oherwydd eu dylanwad anghymesur ar grwpiau ymylol: agweddau cymunedol, polis\u00efau cyhoeddus, amrywiaeth demograffeg, yr amgylchedd ffisegol, yr amgylchedd cymdeithasol ac amddifadedd ardal.<\/p>\n<p>Ceir tystiolaeth anuniongyrchol sylweddol y gellir esbonio anghydraddoldebau unigrwydd gan y ffactorau rhyngbersonol a strwythurol a nodwyd yn yr adolygiad. Mae tystiolaeth uniongyrchol yn fwy cyfyngedig, ond mae\u2019n cynyddu ac mae\u2019n addawol. Mae angen mwy o ymchwil i archwilio\u2019r ffactorau strwythurol sy\u2019n arwain at anghydraddoldebau unigrwydd a sut y gellir mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhain drwy newidiadau sy\u2019n gwella llesiant cymdeithasol pob aelod mewn cymdeithas. Fel yr esbonia\u2019r adolygiad yn glir, ni ellir mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau unigrwydd drwy ddulliau unigolyddol mae angen mynd i'r afael \u00e2 hwy drwy leihau eithrio a gwerthfawrogi gwahaniaeth.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae tystiolaeth gwaith ymchwil yn dangos yn llethol bod unigrwydd yn effeithio ar rai grwpiau mewn cymdeithas yn fwy nag eraill a bod hyn yn arbennig o wir i\u2019r rhai sy\u2019n wynebu mathau lluosog o amddifadedd. Mae hyn yn awgrymu y gallai unigrwydd fod wedi\u2019i ddosbarthu\u2019n anghyfartal mewn cymdeithas mewn ffyrdd sy\u2019n adlewyrchu ac yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10299,"template":"","categories":[150],"tags":[134,141,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14510","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-llywodraeth-leol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Railway-Gardens-craft-2.jpg","filesize":294774,"sizes":{"medium":{"file":"Railway-Gardens-craft-2-744x419.jpg","width":744,"height":419,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76121,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-744x419.jpg"},"large":{"file":"Railway-Gardens-craft-2-1200x675.jpg","width":1200,"height":675,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":163853,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-1200x675.jpg"},"thumbnail":{"file":"Railway-Gardens-craft-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":75958,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Railway-Gardens-craft-2-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":79452,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-768x432.jpg"},"1536x1536":{"file":"Railway-Gardens-craft-2-1536x864.jpg","width":1536,"height":864,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":236345,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-1536x864.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14507","name":"Railway-Gardens-craft-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2.jpg","title":"Railway-Gardens-craft-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Railway-Gardens-craft-2.jpg 1600w"}],"files":[{"file":[14512],"publication_type":"Report"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14510","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14510\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10299"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14510"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14510"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14510"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14510"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}