{"id":14273,"date":"2022-01-07T00:01:05","date_gmt":"2022-01-07T00:01:05","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/codir-oed-cyfranogi-i-18\/"},"modified":"2025-04-11T13:32:00","modified_gmt":"2025-04-11T13:32:00","slug":"codir-oed-cyfranogi-i-18","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/codir-oed-cyfranogi-i-18\/","title":{"rendered":"Codi'r Oed Cyfranogi i 18"},"content":{"rendered":"<p>Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae'r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal ag yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru i archwilio goblygiadau dilyn y polisi hwn yng Nghymru. Ystyriodd yr ymchwil y modd y gallai Codi\u2019r Oedran Cyfranogi (RPA) ryngweithio \u00e2 diwygiadau parhaus i oedran ysgol a darpariaethau \u00f4l-16 yng Nghymru, ac archwiliodd bolis\u00efau amgen sy'n canolbwyntio ar ostwng nifer y disgyblion sy\u2019n gadael yr ysgol yn gynnar, yn hytrach na pholis\u00efau sy'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bobl ifanc aros mewn dysgu am gyfnodau hirach.<\/p>\n<p>Er mwyn archwilio'r materion uchod, aeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ati i gomisiynu\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Adolygiad o lenyddiaeth<\/strong> bwrdd gwaith i edrych ar dystiolaeth ryngwladol ansoddol mewn perthynas \u00e2 manteision a heriau RPA, yn ogystal \u00e2 pholis\u00efau amgen.\n<ul>\n<li>Er mwyn deall y modd y byddai'r polisi hwn yn rhyngweithio \u00e2 diwygiadau polisi cyfredol ac arfaethedig yng Nghymru, cynhaliwyd nifer bach o <strong>gyfweliadau \u00e2 rhanddeiliaid allweddol <\/strong>yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector addysg a hyfforddiant ehangach.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<li><strong>Dadansoddiad meintiol <\/strong>i fodelu effaith RPA yng Nghymru, pe bai'n cael ei weithredu, o gymharu \u00e2 llinell sylfaen o lefelau cyfranogiad gwirfoddol cyfredol yn 17 a 18 oed.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth ansoddol o wledydd eraill i gefnogi deddfwriaeth sy'n codi'r oedran cyfranogi mewn dysgu yn wan. Mae profiad rhyngwladol yn dangos effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad o ran cymwysterau, cyfraddau diweithdra ac enillion yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r effaith ar wella cyfraddau cadw mewn dysgu \u00f4l-16 yn amheus. Ar sail y dystiolaeth, byddai RPA yn cynhyrchu buddion cyfyngedig i\u2019r bobl ifanc hynny sy\u2019n ymgysylltu leiaf \u00e2 dysgu.<\/p>\n<p>Mae'r dadansoddiad meintiol yn cefnogi'r canfyddiadau hyn, gan ddangos bod unrhyw fudd economaidd a ddarperir gan RPA yn dibynnu'n fawr ar lefel y cydymffurfedd \u00e2'r polisi. Ym mhob senario a gyflwynir, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y byddai peidio \u00e2 darparu opsiynau i'r bobl ifanc hynny y bydd y polisi'n effeithio arnynt, er mwyn eu denu i aros mewn addysg neu hyfforddiant, yn arwain at gyraeddiadau ychwanegol dibwys a manteision economaidd bach cymesur. Gallai hyn hefyd effeithio ar eu cymhelliant i gymryd rhan mewn dysgu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae'r cwricwlwm newydd i Gymru a'r diwygiadau arfaethedig mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant \u00f4l-orfodol (PCET) yn cynnig llwyfan ar gyfer newid er mwyn annog mwy o gyfranogiad mewn addysg \u00f4l-16, a rhagor o gydymffurfedd \u00e2\u2019r addysg honno. Mae adeiladu ar brofiad gwledydd yr OECD yn amlygu\u2019r angen i ganolbwyntio ar y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Atal cynnar;<\/li>\n<li>Cefnogi ac ymgysylltu \u00e2 dysgwyr cyn-16 oed sy'n cael anawsterau;<\/li>\n<li>Monitro'r rhai sy\u2019n wynebu risg;<\/li>\n<li>Cynnig llwybrau o ansawdd da i'r rhai sy'n llai dawnus yn academaidd; a<\/li>\n<li>Cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu ar ddiwedd yr ysgol uwchradd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn hollbwysig, dylid ymestyn y cynnig hwn o fewn yr arena \u00f4l-16.<\/p>\n<p>Gan roi ystyriaeth i\u2019r ddeddfwriaeth gyfredol ac arfaethedig yn y gofod addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 (e.e. gweithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru a'r diwygiadau addysg PCET arfaethedig), mae'r argymhellion yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Canolbwyntio ar leihau cyfraddau gadael cyn gorffen \u00f4l-16, a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar;<\/li>\n<li>Darparu cynnig \u00f4l-16 cydlynol a chyson sy'n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd i Gymru;<\/li>\n<li>Cefnogi newydd-ddyfodiaid cynnar i\u2019r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus; a<\/li>\n<li>Darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio sy\u2019n cael eu targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>DOI reference: https:\/\/doi.org\/10.54454\/20220106<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae'r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9836,"template":"","categories":[18],"tags":[136,138],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14273","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-addysg","tag-cyflogaeth-gwaith-a-sgiliau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"college-students-new-smaller2-4.jpg","filesize":344549,"sizes":{"medium":{"file":"college-students-new-smaller2-4-744x309.jpg","width":744,"height":309,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49351,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-744x309.jpg"},"large":{"file":"college-students-new-smaller2-4-1200x498.jpg","width":1200,"height":498,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":99396,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-1200x498.jpg"},"thumbnail":{"file":"college-students-new-smaller2-4-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57392,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"college-students-new-smaller2-4-768x319.jpg","width":768,"height":319,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51298,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-768x319.jpg"},"1536x1536":{"file":"college-students-new-smaller2-4-1536x637.jpg","width":1536,"height":637,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":142010,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-1536x637.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"college-students-new-smaller2-4-1920x830.jpg","width":1920,"height":830,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":224184,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-1920x830.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14222","name":"college-students-new-smaller2-4.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/college-students-new-smaller2-4.jpg","title":"college-students-new-smaller2-4.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":[14275],"publication_type":"Report","title_for_display":"Codi\u2019r Oed Cyfranogi i 18"},{"file":[14276],"title_for_display":"Modelu Effaith Codi\u2019r Oedran Cyfranogiad i 18"},{"file":[14277],"title_for_display":"Codi\u2019r oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 18 oed yng Nghymru - Briff Polisi"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14273","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14273\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9836"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14273"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14273"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14273"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14273"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}